Ffynnon Aelhaearn
Ffynnon sanctaidd yw Ffynnon Aelhaearn, a lleolir hi ym mhentref Llanaelhaearn. Ffynnon betryal ei siâp, sy’n mesur tua 13 X 7 troedfedd. Ers talwm, deuai cleifion ato i gael gwellhad a byddai pererinion yn aros yma hefyd, i yfed y dŵr a gorffwys ar ôl cerdded o Glynnog. Codwyd adeilad o gwmpas dechrau’r ugeinfed ganrif gan y Cyngor Plwyf, er mwyn gwarchod purdeb y dwr rhag diptheria.