Chwarel Cors-y-bryniau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:30, 10 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi i’r ochr ddwyreiniol i Moel Tryfan yw Chwarel Cors-y-Bryniau. Gelwir hi’n Alexandra, neu Alexandria ar adegau.

Dechreuodd gwr o’r enw Robert Hughes, Bryn Fferam gloddio yno ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd drafferth cloddio yma, a daeth y gwaith i ben wedi ei farwolaeth. Erbyn 1824, roedd dynion o Gaernarfon wedi ceisio rhedeg y chwarel, ac ei hail-agor. Cafod hwythau drafferth yno, a llawer eraill ar eu hol. Mae’n debyg fod y tirwedd ddim yn ffafriol iawn a’r gwyr rhain oedd yn mentro yno. Yn 1862, agorodd fel chwarel swyddogol, a dechreuwyd gwaith ar y ‘Lefel Mawr’ a oedd tua 700 llath o hyd ar hyd ochr orllewinol Moel Tryfan.

Nid oedd llawer o lwc yn perthyn i’r lle hwn, ac ar ôl llawer o ymdrechion ni chafodd y lle lwyddiant hyd nes diwedd y ganrif ymhle roedd yn cynhyrchu tua 6000 tunnell o lechi ar ei hanterth, ac yn cyflogi tua 256 o weithwyr.

Daeth cwymp yn y galw erbyn 1913, a bu rhaid diswyddo nifer o’r gweithiwyr, ac o ganlyniad aeth tua 200 o’r gweithiwyr ar streic a drefnwyd gan Undeb y Chwarelwyr. Rhwng 1918 a 1931, daeth y chwarel o dan reolaeth cwmni arall, sef yr Amalgamated Slate Association Ltd., a cheisiodd eu rhedeg ar y cyd gyda Chwarel Moel Tryfan.

Roedd y Caernarvonshire Crown Slate Quarries Co. Ltd wedyn yn gyfrifol am y chwarel. Cafodd eu siomi gan y diffyg galw ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac erbyn y cyfnod hyn dim ond 62 o weithwyr oedd yn gyflogedig yno. Daeth y gwaith yno i ben erbyn 1972 oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch.

Ffynonellau

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llafar Gwlad, 2007)

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol