Craig y Dinas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:12, 21 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Craig y Dinas yn gaer fechan ar safle trawiadol uwchben Afon Llyfni ac ar gwr y ffordd wledig sy'n mynd o Bontlyfni i Ben-y-groes.

I fynd at y gaer dylid mynd i fyny'r ffordd gul a welir ar y dde yn union ar ôl mynd dros Bont y Cim os ydych yn dod o gyfeiriad Pontllyfni/Brynaerau. Mae'r ffordd yn mynd i fyny gallt bur serth, gydag Afon Llyfni o dani mewn ceunant dwfn a choediog. Ar ôl cyrraedd brig yr allt fwy na lai mae caer Craig y Dinas ar y dde uwchlaw'r afon a rhyw ganllath o'r ffordd ar draws cae ac yn hawdd iawn cerdded ati. Fodd bynnag, nid oes unrhyw arwydd yn nodi ei bod yno ac nid oes lle parcio, ond mae wedi ei nodi'n amlwg fel heneb ar fap Ordnans yr ardal.

Gellir ei hystyried yn fryngaer fechan mewn gwirionedd, er nad yw ar fryn fel y cyfryw. Ar yr ochr orllewinol, ar ffurf hanner lleuad, ceir dau glawdd a ffos amddiffynnol sydd yn dal i fod yn uchel a dwfn iawn. Wrth gerdded ar waelod y ffos mae top y clawdd o leiaf bymtheg troedfedd uwch eich pen. Wrth edrych i lawr at y môr o ben y cloddiau hyn mae caer arfordirol fawr Dinas Dinlle i'w gweld yn glir, a dichon bod cysylltiad agos ar un adeg rhwng trigolion y ddwy gaer. Gallent yn hawdd gysylltu â'i gilydd trwy arwyddion mwg. Nid oes unrhyw amddiffynfeydd ar ochr ddwyreiniol y gaer oherwydd bod y tir yn syrthio'n serth iawn i'r Afon Llyfni, sy'n golygu bod amddiffynfeydd naturiol ar yr ochr honno. Mae mynedfa amlwg ar ochr ogleddol y gaer ac mae'n bosib bod iddi fynedfa ddeheuol hefyd ar un adeg, er nad oes fawr olion ohoni. O fewn y gaer ceir carnedd bridd artiffisial. [1]

Un a oedd yn gyfarwydd iawn â Chraig y Dinas oedd Eben Fardd o Glynnog. Roedd Eben yn gerddwr mawr ac yn ei ddyddiaduron ceir hanes rhai o'i deithiau yn yr ardal. Gyda'r nos ar Galan Mai 1839 aeth am dro o Glynnog i Ben-y-groes ac mewn darn blodeuog a rhamantaidd yn ei ddyddiadur mae'n disgrifio cerdded ar noson hynod braf dros Bont y Cim ac i fyny'r allt am Graig y Dinas. Credai Eben yn sicr mai caer Rufeinig ydoedd (er nad oes unrhyw dystiolaeth o hynny mewn gwirionedd - caer un o'r llwythau Brythonig lleol ydoedd bron yn sicr) ac mae'n sôn am ffordd Rufeinig syth yn arwain tuag ati. Mae'n ymgolli yn yr olygfa hudolus ac mae ei ddychymyg yn mynd yn drên fel y disgrifia yn ei Saesneg gorau:

Many a gallant hero, who here heard the rustling of the Roman Eagle unfurled in the evening breeze, and felt his bosom heave, and his courage & patriotism raised to the highest pitch of military order, now moulders in the dust of that insulated knoll, unconscious of the fall of Empires and the crumbling of the ancient Roman power, which with a glowing heart he formerly loved and admired.[2]


Cyfeiriadau

  1. Gweler gwefan The Megalithic Portal - mae lluniau o'r gaer i'w gweld yno
  2. Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, golygwyd gan E.G. Millward, (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), t.106.