Eithinog Wen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:09, 17 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Annedd a hen ffermdy yw Eithinog Wen, yn ardal Pontlyfni.

Credir i’r enw Eithinog Wen ar un cyfnod gyfeirio at o leiaf tair annedd a’u tiroedd (sef Eithinog Uchaf, Eithinog-Ganol ac yr Eithinog Wen). Roeddynt yn ffurfio rhan bwysig o hen drefgorddau Eithinog a Bryncynan yn ôl y Parch. W.R. Ambrose.[1]

Roedd y tiroedd ar un adeg yn nwylo Ellen Glynne, merch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn-y-Gwydion. Credir i’r Ellen Glynne a nodir yma werthu llawer o’i hystâd er mwyn sefydlu Elusendai ar gyfer merched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu aelodau o’u teulu i wylio ar eu holau. Y mae adeilad a elwir yn Tai Ellen Glyn yn sefyll hyd heddiw yn Llandwrog, er mai adeilad dyddiedig tua 1897 sydd ar y safle bellach.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872)
  2. Gwefan Coflein