Plwyfi hanesyddol

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:34, 15 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yn hanesyddol, ers o leiaf diwedd y Canol Oesoedd, bu Uwchgwyrfai wedi ei rannu rhwng pum plwyf hanesyddol: Clynnog-fawr neu Glynnog-fawr-yn-Arfon; Llanaelhaearn; Llandwrog; Llanllyfni; a Llanwnda, y'i gelwid o bosibl yn y dyddiau cynnar, Llanwyndaf. Ni newidwyd y ffiniau'n sylweddol tan y 1970au, a'u newid eto ym 1996.

O gyfnod y 16eg ganrif, defnyddid y plwyf fel prif uned llywodraeth leol, ac roedd Festri'r Plwyf yn gyfrifol am faterion sifil (megis cynnal y tlodion a'r ffyrdd) yn ogystal â materion eglwysig (megis cynnal y fynwent a ffabrig yr eglwys). Serch hyn fe arhosai gof gwlad am y trefgorddau (unedau o dir oedd yn fwy hynafol byth).