Plwyfi hanesyddol
Yn hanesyddol, ers o leiaf diwedd y Canol Oesoedd, bu Uwchgwyrfai wedi ei rannu rhwng pum plwyf hanesyddol: Clynnog-fawr neu Glynnog-fawr-yn-Arfon; Llanaelhaearn; Llandwrog; Llanllyfni; a Llanwnda, y'i gelwid o bosibl yn y dyddiau cynnar, Llanwyndaf. Ni newidwyd y ffiniau'n sylweddol tan y 1970au, a'u newid eto ym 1996.
O gyfnod y 16eg ganrif, defnyddid y plwyf fel prif uned llywodraeth leol, ac roedd Festri'r Plwyf yn gyfrifol am faterion sifil (megis cynnal y tlodion a'r ffyrdd) yn ogystal â materion eglwysig (megis cynnal y fynwent a ffabrig yr eglwys). Serch hyn fe arhosai gof gwlad am y Trefgorddau Uwchgwyrfai|trefgorddau]] (unedau o dir oedd yn fwy hynafol byth).