Melin Ysgubor Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:14, 13 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd Melin Ysgubor Fawr yn felin fach ar fferm ym mhen mwyaf dwyreiniol plwyf Llanaelhaearn. Tybir mai melin i falu eithin ar gyfer porthiant ydoedd. Mae'r adeilad sydd yno'n fach iawn ac heb ffenestri ac yn ymdebygu'n fwy i adeilad amaethyddol, ond ar un adeg bu olwyn ddŵr â siafft yno yn troi mewn cafn. Mae'n sefyll ar ochr buarth fferm Ysgubor Fawr.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

.

  1. Gwefan Coflein [1], cyrchwyd 13.01.2021