Melin Ynys Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:36, 12 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Ynys Goch yn felin at ddibenion y fferm ac yn benodol at falu eithin. Mae Ynys Goch yn mhen eithaf plwyf Llanaelhaearn, nid nepell o lethrau deuheuol mynydd Pen-y-gaer.

Bu eithin yn borthiant i wartheg ac yn arbennig ceffylau tan y 19g., ond oedd angen ei falu a'i wasgu er mwyn iddo fod yn haws ei fwydo i'r anifeiliaid. Roedd periannau malu eithin i'w cael hefyd,rhai'n cael eu troi gan ddyn ac eraill gan gŵn; ond mae melin eithin a drowyd gan ddŵr yn gallu gwneud mwy gyda fawr o fôn braich.

Bu'r olwyn ddwr a'r siafft yn dal yn eu lle tan 2010, pan drowyd yr adeilad yn dŷ.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau