Melin Moelfre

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:23, 12 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Melin Moelfre yn sefyll ar fferm Moelfre Mawr, Llanaelhaearn a fu ar un adeg yn rhan o Ystad Lleuar, er mae'n bosibl nas adeiladwyd y felin tan ar ôl 1840, gan nad yw ffrwd y felin na llyn y felin i'w gweld ar fap degwm y plwyf a wnaed tua'r flwyddyn honno. Tynnid y dwr o un o flaen-nentydd Afon Erch.Credir fod hen ffermdy Moelfre Mawr wedi ei addasu'n adeilad ar gyfer y felin pan godwyd ffermdai newydd Moelfre Mawr a Moelfre Bach; yn sicr maea'r adeilad ei hun yn dyddio'n ôl i'r 18g., ac mae nodweddion tŷ annedd iddo. Melin malu ŷd ydoedd, ac efallai na wasanaethodd neb ond ffarm Moelfre Mawr.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein [1], cyrchwyd 12.01.2021; Gwefan y Mills Archive, [2], cyrchwyd 12.01.2021