Gored Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:47, 7 Ionawr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Gored Beuno yn gasgliad o gerrig mawr yn y môr, sy'n ymddangos ar gyfnodau o drai, tua 400 metr oddi ar y lan gyferbyn â phentref Clynnog Fawr a Phorth Clynnog. Y gred oedd bod Beuno, a mynaich ei glas (neu abaty) yng Nghlynnog, wedi adeiladu cored, neu drap, i ddal pysgod yno a bod lefel y môr, pan oedd ef yn fyw, yn sylweddol is nag ydyw heddiw, fel yr oedd modd iddo gyrraedd y gored a dal pysgod yno.

Ystyr cored yw clawdd cerrig (neu wiail weithiau) ar ffurf lleuad newydd i ddal pysgod. Deuai'r pysgod i mewn gyda'r llanw, ac wrth i'r llanw droi nid oedd modd iddynt ddianc, a chaent eu dal yn y pyllau y tu ôl i'r goredau. Fe'u defnyddid yn aml yn y Canol Oesoedd. Mae sawl enghraifft o hyd i'w gweld ar lannau'r Fenai; er enghraifft, wrth Ynys Gored Goch ger Pont Britannia. Mae olion coredau i'w gweld yn y môr oddi ar arfordir Ceredigion hefyd - Aber-arth yn arbennig - a chysylltir y rhain â mynaich Ystrad Fflur. Yn aml, fe'u cysylltir â safleoedd crefyddol gan fod pysgod yn rhan bwysig o fwyd offeiriaid a mynaich ar ddyddiau ympryd.

Ceir englyn gan Eben Fardd (nid un o’r rai gorau mae’n rhaid cyfaddef) yn sôn am fynaich Beuno yn mynd am y gored i geisio pryd neu ddau o bysgod:

Rhai a geir tua’r ‘Gored’, - am bysgod I ymmbesgi’n myned;

                          Ond yr hwyr dyr i waered,

I ado y ‘Cryw’ am dy Gred.

(Yr un yw ystyr "cryw" a "gored")



Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma