Y Pedwar Cabalero
Grŵp canu gwlad a ffurfiwyd yn ail hanner y 1960'au oedd Y Pedwar Cabalero. Canai yn Saesneg hefyd dan yr enw The Four Caballeros. Pum aelod oedd i'r grŵp pan gyhoeddwyd record EP ohonynt gan Recordiau'r Dryw ym Mehefin 1970 sef :
Glyn Jones, o Fryn Eryr, Trefor - prif ganwr, iodliwr a gitâr rhythm ;
Dennis Williams, o bentref Trefor - canwr (yn y deuawdau yn arbennig) a phrif gitarydd ;
John Hanks, organ drydan ;
Johnny Evans, o Glynnog - drymiwr ;
Richard Eammes, gitâr fâs.
Dennis Williams fyddai'n cyfansoddi geiriau'r caneuon. Mae ef bellach wedi ymddeol o fod yn Brif Weinyddwr Gwasanaeth Cerdd William Matthias yng Ngwynedd a Môn, ac mae'n byw yn Llanfair Pwllgwyngyll. Deil Glyn Jones i fyw yn Nhrefor. Yn gymharol ddiweddar ffurfiodd Glyn a Dennis ddeuawd hynod o boblogaidd o'r enw MONTRE, yr enw wedi ei fathu o 'Môn' a 'Trefor', lle mae'r ddau heddiw'n byw. Yn wir, maent hefyd yn frodyr-yng-nghyfraith i'w gilydd gan iddynt briodi dwy ferch o Glynnog Fawr - Glyn â Heather, a Dennis â Faith.
Pedair cân sydd ar y record, a'r oll o'r geiriau wedi eu cyfansoddi gan Dennis Williams :
1. Morfudd
2. O 'rwy'n dy garu
3. Caraf Cymru
4. Menna annwyl
Enw'r record yw Y 4 CABALERO.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma