Aelhaearn Sant
Nawdd-sant a aned yn y 7fed Ganrif oedd Aelhaearn Sant.
Yn ôl adroddiad Syr J. E. Lloyd, mab Hygarfael, mab Cyndrwyn o Lystin Wennan – ‘Moel Feliarth’ heddiw, ym mhlwyf Llangadfan oedd Sant Aelhaearn. Ef a sefydlodd Cegidfa, Llanaelhaearn, a chapel arall o’r ‘run enw a gynrychiolir gan Gwyddelwern. Roedd cred hefyd fod ei ffynnon ‘Ffynnon Aelhaearn’ gyda rhinwedd gwella yn ei dyfroedd. Mae ei Ddydd Gŵyl ar Dachwedd 1af.