Tai Elen Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:55, 30 Rhagfyr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tai Elen Glynn yn elusendai yn Llandwrog, nid nepell o fferm Cefn Hengwrt. Mae'r adeilad presennol yn weddol fodern, er bod hen elusendai ar yr un safle.

Fe'i sefydlwyd gan ewyllys Ellen Glynn, Bryn Gwydion, tua 1753, ac mae'n amlwg ei bod hi'n ofynnol i offeiriad y plwyf ddweud gweddïau yn yr elusendai bedair gwaith y flwyddyn, ar Ŵyl San Steffan, Gŵyl y, Gŵyl Sant Ioan Bedyddiwr a Gŵyl Sant Mihangel.[1]

Erbyn 1840, pan wnaethpwyd map o'r plwyf er mwyn pennu rhent y degwm, yr oedd 12 bwythyn ar gyfer pobl tlawd yno, gyda David Williams ac ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol. Yr oedd Mary Jones yn enw un o'r preswylwyr.[2]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr plwyf Llandwrog, 1734-1767
  2. LLGC, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llandwrog [1]