Siop Robert Evans, Pen-y-groes
Siop groser oedd Siop Robert Evans. Safai y tu ôl adeilad Banc y Midland ar Ffordd y Sir, lle mae maes parcio bychan erbyn hyn. Mae'r adeilad wedi'i chwalu ers blynyddoedd. Roedd yn agored yn ystod blynyddoedd cynnar y 20g. Robert Evans (ganed 1863) oedd y perchennog, a'i wraig oedd Kate Evans, merch fferm Drws-y-coed Uchaf; priododd y ddau ym 1904.[1] Cyn iddo briodi, fe gadwai'r siop gyda'i frawd iau, Evan Price Roberts (ganed 1875), y ddau'n bartneriaid ffurfiol yn y busnes. Hefyd yn byw yn y darn o'r adeilad nad oedd yn siop ym 1901, yr oedd Richard Owen, 24 oed, oedd yn gweithio yn y siop. Diddorol yw nodi nad oedd morwyn na dynes cadw tŷ yn byw yno, fel y gellid disgwyl mewn cartref dyn a gadwai fusnes megis siop.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma