Cilmin Droed-ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:15, 6 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Cilmin Droed-Ddu yn ffigwr chwedlonol a ymsefydlodd ar lan yr Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog. Credir iddo fod yn benteulu ar deulu’r Glyniaid yn Glynllifon ac mae ei droed ddu yn symbol a ymddangosai ar arfbais y teulu.

Chwedloniaeth

Mae amryw straeon ynglŷn â sut y daeth y gŵr hwn i fod â throed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo tua Tre’r Ceiri, i ddwyn llyfr cyfrin a oedd â gwybodaeth unigryw ynddo ac a oedd yn nwylo cythraul. Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd Cilmin gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd afon Llifon gollyngodd ei droed yn y dŵr gan ei throi yn ddu ac yn boenus.

Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gŵr ofyn wrtho os yr oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau, ddaru o ofyn wrtho lle yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna wedi mynd adref ac i’r ‘Seler’ hwn a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed ddisgyn i bwll o ddŵr tywyll nid oedd yn gallu golchi’r droed yn lân. Credodd llawer fod mai dyma sut y sylfaenodd y teulu eu cyfoeth.

Ffynonellau

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).