Lleiniau Hirion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:50, 11 Rhagfyr 2020 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fferm weddol fechan ar lethrau isaf Yr Eifl uwchlaw pentref Trefor yw Lleiniau Hirion.

Mae'r tŷ yn nodweddiadol o ffermdy unllawr (gyda thaflod yn hytrach na llofftydd) o'r ddeunawfed ganrif, gyda'r beudai yn gysylltiedig ag ef. Cadwyd llawer o'i nodweddion cynhenid ac mae wedi ei wyngalchu yn yr hen ddull. Saif ar lechwedd braf gyda golygfeydd hyfryd dros y pentref am Fae Caernarfon, Môn a mynyddoedd gorllewinol Eryri.

Mae'r enw Lleiniau Hirion yn ddiddorol ac yn cyfeirio mae'n debyg at yr arferiad yn yr Oesoedd Canol, ac wedi hynny, o rannu'r tir yn lleiniau main a hir a fyddai'n cael eu rhoi i'w hamaethu i ddeiliaid caeth neu rydd y faenor neu drefgordd leol - sef yn yr achos yma, trefgordd Elernion, a oedd ychydig gannoedd o lathenni i ffwrdd o'r Lleiniau Hirion i fyny Afon Tâl. (Mae hanes Elernion yn mynd yn ôl i'r Oesoedd Canol cynnar a cheir cyfeiriad at y drefgordd yn y "Record of Caernarvon" ym 1352.) Yn ffinio â thir Lleiniau Hirion ceir fferm Maes-y-neuadd (lle sefydlwyd achos yr Annibynwyr ym mro'r Eifl flynyddoedd cyn bodolaeth pentref Trefor ei hun fel y cyfryw). Mae'n debygol iawn fod enw'r fferm hon yn cyfeirio at yr hen dŷ neuadd canoloesol a safai yn Elernion cyn i'r tŷ diweddarach a godwyd yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg gael ei adeiladu ar y safle. Roedd y "maes" agored o flaen hwnnw yn ymestyn i lawr ar hyd glannau Afon Tâl hyd at safle ffermdy presennol Maes-y-neuadd.


Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol