Crwydro Llŷn ac Eifionydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:15, 30 Tachwedd 2020 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Crwydro Llŷn ac Eifionydd gan Gruffudd Parry yn un o gyfrolau mwyaf safonol y gyfres gyfoethog o lyfrau ar Grwydro Cymru a gyhoeddwyd dros gyfnod o oddeutu ugain mlynedd o flynyddoedd cynnar y 1950au i ddechrau'r 1970au. Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf y gyfrol hon ym 1960 gan Lyfrau'r Dryw, Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Mae gloywder a llithrigrwydd Cymraeg Gruffudd Parry, a'i ddawn lenyddol ddiamheuol, yn amlwg drwy'r gyfrol gyfan.