Nant Mawr, Trefor
Mae Nant Mawr, Trefor, yn un o'r enghreifftiau gorau y gellir ei gael o ddyffryn siâp U a ffurfiwyd gan y rhewlif diwethaf.
Wrth gerdded ar hyd y llwybr cyhoeddus o bentref Trefor i gyfeiriad y traeth gorllewinol ('West End' fel y caiff ei alw'n lleol), deuir yn gyntaf i gae gweddol wastad Llawr Sychnant. Ond yn syth ar ôl mynd trwy'r giât ganol ar y llwybr mae dyffryn sych Nant Mawr yn agor o'ch blaen yn hynod drawiadol. Er nad yw'n ddyffryn dwfn, mae ei lawr yn hynod wastad, er yn goleddfu ychydig i gyfeiriad y môr, tra bo ei ddwy ochr (sydd wedi'u gorchuddio ag eithin a rhedyn) fwy neu lai'n gwbl gytbwys o ran ffurf am rai cannoedd o lathenni. Ffurfiwyd y dyffryn wrth i rewlif yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf (tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl) ei naddu wrth symud yn raddol o'r tir i gyfeiriad Bae Caernarfon. Mae'n cael ei ystyried yn enghraifft mor drawiadol o'r math hwn o ddyffryn fel bod myfyrwyr daeareg yn dod i'w weld a gwneud mesuriadau - rhai ohonynt yn teithio cryn bellter yno.
Yn gyfochrog â Nant Mawr ceir Nant Bach, sydd wedi'i ffurfio gan yr un gweithgaredd rhewlifol ond nad yw mor gytbwys a thrawiadol ei ffurf â Nant Mawr o bell ffordd.
Cyfeiriadau
Gwybodaeth bersonol