Siop Gurn Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:00, 21 Tachwedd 2020 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ar un adeg safai siop yn Gurn Goch ar ochr chwith y ffordd drwy'r pentref wrth fynd i gyfeiriad Caernarfon.

Mewn cyfnod pan fo siopau'n prysur ddiflannu o bentrefi pur fawr hyd yn oed, mae'n anodd dychmygu erbyn hyn y bu siop ar un adeg mewn pentref mor fychan â Gurn Goch. Ond dyna'r sefyllfa hyd at yn gymharol ddiweddar. Adeilad pren a sinc oedd y siop a safai ar ochr chwith y ffordd wrth fynd drwy Gurn Goch i gyfeiriad Caernarfon. Roedd yn union uwchben yr afon a fwy neu lai dros y ffordd â'r adeilad a fu ar un adeg yn dafarn y Sportsman. Siop yn gwerthu angenrheidiau pob dydd ydoedd, yn fwydydd, poteli pop, fferins a baco, yn ogystal â darparu nwyddau nad oes brin alw amdanynt erbyn hyn, megis burum a pharaffîn. Credaf iddi gau tua diwedd y 1960au neu ddechrau'r 1970au, pan ledwyd y ffordd drwy Gurn Goch ac adeiladu pont newydd dros yr afon yno yn lle'r hen bont gul (sy'n dal i sefyll wrth ochr y bont ddiweddarach). Gyda dyfodiad y ffordd newydd bu'n rhaid tynnu'r siop i lawr ac mae'n debyg ei bod yn tynnu at ddiwedd ei rhawd beth bynnag.

Yr olaf i gadw siop Gurn Goch, cyn belled ag y gwn, oedd gwraig weddw o'r enw Nell Jones. Roedd yn ferch Aberafon, Gurn Goch ac wedi priodi â William Jones (Wil) Llwyn Forwyn, Llangybi. Lladdwyd ei gŵr yn ddyn ifanc prin ddeg ar hugain oed yn y 1930au mewn damwain moto beic. Roedd ar ei ffordd i'w waith yn stesion Llanwnda pan aeth yn erbyn buwch ar y lôn ac fe'i taflwyd oddi ar y beic ac yn erbyn clawdd cerrig. Gadawyd Nell felly'n weddw ifanc i ofalu am nifer o blant. Roedd yn weddol oedrannus erbyn y cyfnod y daeth i gadw'r siop yn Gurn Goch, ac yn hwylus iawn roedd yn byw dros y ffordd i'r siop yn un o'r bythynnod.

Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol