Arthur Festin Hughes
Ganwyd Arthur Festin Hughes ym Mlaenau Ffestiniog ar 5 Medi 1939.
Bu farw ei fam ar ei enedigaeth ac fe’i magwyd gan ei nain, Katie Hughes, Coetmor, Tal-y-sarn. Roedd dau o’i meibion ar y môr – Huw, tad Ffestin, yn beiriannydd, ac Idwal yn gapten. Roedd y trydydd mab, Richard, yn grydd yn Nhal-y-sarn a’i hwyrion, Fred, Gwynant ac R. Silyn Hughes yn gefndyr i Ffestin.
Cofia ei gyd-ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Nantlle ateb Ffestin pan ofynnodd Mr Gill iddo lle’r oedd ei dad iddo gael rhoi gwybod iddo am ryw ddrygioni neu’i gilydd a wnaeth. “Yn Kuwait,” meddai yntau.
Gadawodd Ffestin ei wats i’w thrwsio yn siop Thomas yr oriadurwr un tro a chofia Dafydd Glyn Jones fynd yno i nôl y wats un awr ginio efo Ffestin a William Elwyn Williams. Aeth yn hwyr arnynt yn cychwyn oddi yno a chyrraedd yr ysgol allan o wynt. “Mae’n ddrwg iawn gynno ni, ond ’doedda ni ddim yn gwbod faint o’r gloch oedd hi,” oedd yr esgus wrth Mr Gill. “Reit, lle ’dach chi wedi bod?” gofynnodd yntau. “Yn siop Thomas Watchmaker.” “A llond y lle o glociau’n tician o’ch cwmpas chi?!”
“Ar ei ffordd yn ôl i’r ysgol un awr ginio arall,” meddai Dafydd Glyn, “aeth Ffestin ati i ysgrifennu ar yr hysbysfwrdd o flaen swyddfa’r heddlu: “Wanted Dead or Alive: Dafydd Glyn Jones” gan feddwl cael tipyn o hwyl. Ond dyma Huw Lloyd Edwards i mewn i’r Chweched Dosbarth gan gyhoeddi: “A civil offence has been committed.” Gorfu i Ffestin fynd i lawr i fangre’r trosedd ac yno’r oedd PC James a’r Sarjant wedi darparu clwt a phwcedaid o ddŵr yn barod a’r ddau yn sefyll uwchben Ffestin tra bu’n glanhau arwydd y Wild West. Wedyn dyma’r Sarjant yn dweud: “Rhaid i mi gael gair efo dy dad. Lle mae o?” “Yn Sawdi Arabia,” meddai Ffestin.
Mae Maldwyn Davies yn cofio dringo’r Wyddfa efo Ffestin a William Elwyn a Ffestin yn cael pynjar yn Rhyd-ddu, yn cael llwyau a ffyrc i dynnu’r teiar gan wraig garedig a chael tarten afalau ganddi yn boeth o’r popty. Fuon nhw fawr o dro cyn gorffen y darten wedi iddi ofyn a oeddent eisiau rhagor. Ond roedd y llwyau a’r ffyrc a ddychwelwyd iddi wedi plygu. Ar y ffordd adref cafodd Ffestin bynjar arall a phenderfynu mynd ar gefn y beic yr un fath nes oedd y teiar yn racs.
Prifysgol Lerpwl oedd y gyrchfan nesaf lle y graddiodd mewn Hanes a chwblhau cwrs ymarfer dysgu. Yno hefyd yr oedd ei gyfaill Huw Geraint yn astudio Milfeddygaeth. Bu’n athro yng Nghaergybi am gyfnod byr.
Mynd ar daith o amgylch y byd oedd ei fwriad wedyn gan ddechrau yn Awstralia a Seland Newydd ac wedyn i America lle y penderfynodd aros a dod yn ddinesydd y wlad. Ond fe’i galwyd i’r fyddin. Golygai hynny wasanaethu yn Fiet-nam, cael ei anfon i rywle llai peryglus neu ddod adref. “Gan faint ei awydd i aros yn y Mericia, dewisodd Ffestin yr ail,” meddai Dafydd Glyn, “a dyna sut y daeth Sarjant Huws i warchod buddiannau’r Gorllewin yn yr Almaen!! Dyna Ffestin, cymryd pob dim fel y dôi.” Cofia Palmer Parry weld Ffestin yn ei lifrai Americanaidd ym Mhen-y-groes tua 1963 neu’n gynnar yn 1964.
Ar ôl mynd yn ôl i America bu’n gwneud pob math o waith dros dro. Meddai Palmer: “Bu’n gweithio yn y Bucket of Blood Bar ac yn Caesar’s Palace yn Las Vegas. Dywedai mai ei brif waith yn yr olaf oedd hel y gwydrau o amgylch y casino, a rhannu diodydd am ddim i'r cwsmeriaid hynny a oedd yn dal i ddefnyddio'r peiriannau gamblo. Byddai'n rhaid atal y gamblo, fodd bynnag, a chlirio'r adeilad ar yr adegau hynny pan ddeuai Frank Sinatra yno i berfformio.” Diddanwr enwog arall yn y Caesar’s Palace fyddai Sammy Davis Jnr. a rhan o swydd Ffestin, yn ogystal â mynd â diod i’w ystafell, fyddai gofalu am ei ddillad – wardrobe manager. Canfu fod ei siwtiau i’r dim amdano yntau gan iddo drio un neu ddwy ohonynt o ran hwyl.
Ymfudodd wedyn i Awstralia. “Dechreuodd ei yrfa yno fel darlithydd ym Mhrifysgol Adelaide ar Hanes Groeg a Rhufain,” meddai Dafydd Glyn “ond fel y prinhaodd cwsmeriaid y pwnc hwnnw aeth yn bennaeth adran oedd yn cynorthwyo mewnfudwyr Asiaidd i gartrefu yn y Brifysgol ac yn y wlad.”
Daeth ennill graddau eraill yn ail natur iddo am weddill ei oes : BAddysg; MA mewn Ieitheg Gymhwysol; a dwy radd Doethuriaeth, y naill mewn Addysg a’r llall am ei astudiaeth o Ymfudwyr o Gymry yn Awstralia. Cyfrannodd i Wyddoniadur Awstralia ar y testun hwn a bu’n ymchwilio i’r pwnc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymddeolodd yn 2016 gan ddechrau astudio tuag at ail radd MA ym Mhrifysgol Harvard gan wneud peth o’r gwaith ar-lein.
Roedd yn briod â Helen, ffoadur o Iwgoslafia a mam Christine oedd yn ddeg oed ar y pryd ac sydd rŵan yn fam i ddau o blant.
Dychwelai Ffestin yn gyson at ei gyfeillion agos yn Nyffryn Nantlle ac at y teulu. Yn Rhagfyr 1995 cafodd wahoddiad gan Gwmni Gwdihŵ i gymryd rhan mewn rhaglen deledu a threulio pythefnos yng Nghymru. Trefnwyd aduniad hwyliog gan ei gyd-ddisgyblion dan lywyddiaeth Hugh David Hughes yng ngwesty Plas Gwyn, Pentre’rfelin, a gedwid gan ei gefnder, Gwynant Hughes.
“Hwyrach mai'n fuan ar ôl marwolaeth John Gill oedd y tro olaf y gwelais i Ffestin,” meddai Palmer Parry. “Pan ddaeth i'n gweld ni y tro hwnnw, roedd o eisoes wedi bod heibio Dafydd Glyn, a chofiaf iddo ddangos imi gopi o soned a gyfansoddodd Dafydd Glyn mewn Lladin, er cof am John Gill. Doedd gen i ddim digon o Ladin i ddarllen, heb sôn am werthfawrogi'r soned honno. Eto, byddai wedi bod yn syniad da, yn fy marn i, ei chyhoeddi yn Lleu -- pe bai ond er mwyn atgoffa'r genhedlaeth bresennol fod cenedlaethau o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle wedi dysgu Lladin yn y gorffennol, gan athrawon fel Alexander Parry a John Gill, a bod ambell un o'r disgyblion hynny yn dal yn fyw heddiw.”
Bwriadai Ffestin ddychwelyd i Gymru ar ôl ymddeol. Ond ni ddigwyddodd hynny. Ei ddymuniad oedd cael ei gladdu efo’i dad a’i nain ym mynwent Macpela. Ar y funud olaf methwyd â gwireddu hynny a bu’r angladd yn Adelaide ar 29 Awst 2020.