William Glynn, Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:09, 15 Hydref 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Daeth William Glynn (? - 1594) i'w etifeddiaeth ym 1541 ar farwolaeth ei dad, Edmund Llwyd ap Robert ap Meredydd ap Hwlcyn Llwyd. Roedd y degfed genhdlaeth o sylfaenydd y teulu, Ystrwyth ab Ednywain, un o brif swyddogion llys Llywelyn Fawr.

Roedd William Glynn wedi ei benodi'n ynad heddwch yn unol â threfn newydd y Tuduriaid wedi'r Ddeddfau Uno (1536 a 1541) ac mae'r cofnod cyntaf ohono'n gweithredu yn y rôl honno yn dyddio o 9 Chwefror 1552. Fe benodwyd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1561/2. Roedd yn dal yn ynad heddwch ym 1575, a bu farw ym 1594.[1]

Priododd i mewn i ddau deulu dylanwadol arall yng Ngogledd Cymru: yn gyntaf, Catherine ferch Thomas ap Richard ap Howel ap Ifan Fychan o Fostyn; ac ar ôl ei marwolaeth, priododd ym 1562 Angharad, merch Elissa Maurice, Clenennau a oedd yn esitedd ar y fainc ynadol gydag ef.[2][3]

Ni ddylid cymysgu rhwng y William Glynn hwn a'i berthynas, William Glynn (Lleuar), oedd yn cydoesi ag ef.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions (Caernarfon, 1956), t.248
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.172
  3. W Ogwen Williams, op. cit., t.247