Dinas Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:41, 28 Tachwedd 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pentref ar yr arfordir rhwng Caernarfon a Phen Llŷn, yng nghwmwd Uwchgwyrfai. Mae’n le o bwysigrwydd hanesyddol, a cheir cyfeiriadau hynafol i’r traeth yn cynnwys ei bryngaer. Ysgrifennodd y teithiwr* Thomas Pennant am Dinas Dinlle:

.....ar ymyl morfa eang ar lan y mor. Ar y pen uchaf, y mae gwastadedd eang yn cael ei amgylchu gan fur ryfeddol wedi ei wneuthur, yn ôl pob ymddangosiad, o’r pridd a grafwyd allan o’r gwastadle.

Y mae cofnod o’r lle hwn wedi datblygu fel lleoliad twristaidd cyn belled a’r 1900au cynnar. Erbyn tua 1905 roedd caffi a bwthyn aros yno, yn ogystal a Gwesty’r ‘Caernarvon Bay’. Ceir disgrifiad manwl o’r lle hwn tua 1700au yn ‘Numismata Dinllaeana’, gan Richard G. Farrington.

Ffynonellau

Williams, W.G. Dinlle Cymru, Cyf. 29, 1905

Williams, Ifor Dinlleana Transactions of the Anglesey Antiquarian Society, 1948.