Bryn Beddau, Pontlyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:20, 18 Awst 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae 'Bryn Beddau yn un o nifer o lefydd yn ardal Pontlyfni a enwir ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi]].

Enwir [Bryn] Gwdion, Bryn Arien (Brynaerau), Bedd [Maen] Dylan ac ati ym [[Penwaredd Gainc y Mabinogi|Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Credai Syr Ifor Williams nad yr hyn a elwir y Brynaerau presennol rhyw dri chwarter milltir o Bontlyfni, sydd â chapel, plas a ffarm o’r enw hwnnw, oedd union leoliad Bryn Arien y Mabinogi ond yn hytrach y Bryn Beddau hwn ar dir Llyn Gela: “Ar y traeth, gyferbyn â Bryn Aerau, ymgyfyd penrhyn go uchel, a elwir bellach Bryn Beddau. Cynigiaf mai hwn yw’r hen Fryn Arien. Rhed i’r môr ym Mhwynt Maen Dylan..." [1]

Ar Ebrill 1af 1830 ceir hanes James Forbes, 22 oed, yn rhedeg ar draws y caeau ac yn taflu ei hun dros y clogwyn ym Mryn Beddau. Roedd llafurwyr yn gweithio mewn cae cyfagos, rhedasant yno a bu farw yn fuan wedyn. Roedd y gwymp tua 25 llath. Pan archwiliwyd y corff canfuwyd llythyr yn ei boced yn hysbysu ei fod yn rhoi pen am ei fywyd. Roedd yn fab i Charles Forbes o Ynys Jamaica ac roedd ei frawd, Neil, yn aros yn Ystumllyn ar y pryd ac oddi yno yr aeth i’r fan hon i farw. Fe’i claddwyd yn Ynys Cynhaearn. [2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Syr Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi, (Caerdydd, (ail argraffiad) 1951) tt.278-9.
  2. Alltud Eifion (Robert Isaac Jones), Y Gestiana (Tremadog, 1892) t.133 (Adargraffwyd i ddathlu Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Dwyfor, 1975, a gyhoeddwyd gan Wasg Tŷ ar y Graig ac a argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych).