Amddiffynfa Williamsburg

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:33, 28 Tachwedd 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai’r amddiffynfa hwn o fewn hen waliau Stad Glynllifon. Adeiladwyd gan Syr Thomas Wyn ([Glynllifon]) yn 1761, a bu gwaith pellach arno o gwmpas 1773-1776. Cymerodd yr Arglwydd Newborough ei gyfrifoldeb fel aelod seneddol o ddifri, a ddaru o gynnal ei filisia ei hun a’u gosod yn yr amddiffynfa hwn ac yn amddiffynfa Belan. Mae’n cynnwys adeiladau sydd a siâp sgwâr gyda bastiynau onglog, sydd wedi ei amgylchynu a ffoes. Ceir adeiladau domestig a milwrol o fewn yr amddiffynfa, felly gellir awgrymu fod y lle ar un adeg wedi bod yn fwrlwm o brysurdeb gan fod angen cefnogaeth i’r milwyr. Roedd y lle hwn hefyd yn arwyddocaol i’r ‘Society or Garrison’ a’r ‘Holy Order of Sisterhood’.


Ffynonellau

Jones, E. Alfred The Society or Garrison of Fort Williamsburg Y Cymmrodor Cyf. 44. 1935.

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol