Cwm Mynaches

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:33, 6 Awst 2020 gan 86.160.26.196 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwm Mynaches yng Nghwm Dulyn, Nebo.

Siawns mai cysylltiad ag Eglwys Clynnyg sy'n cyfrif am yr enw hwn ac mai yno yr arferid mynd i chwilio am lysiau llesol ydi awgrym Twm Elias - i'r un safle ag y byddai Dr Bach y Mynydd, neu D.T. Jones, yn cael ei ddŵr pur i wneud ei ffisig Llanllyfni enwog ac o Gors-y-Llyn a Chwm y Fynaches gerllaw y deuai amryw o'i lysiau llesol ef.

Mae'r gair "mynaches" yn brin, brin ond fe'i ceir hefyd ym Mhontrhydfendigaid gerllaw hen fynachlog enwog Ystrad Fflur (Lôn Mynaches a Nant Mynaches). A oedd yna leiandy yng Nghlynnog tybed? Yr unig awgrym o hynny yw enw'r cae Bryn Gwyryfdy sydd yn ffinio â Lôn Pant a llwybr Cae Bont. Ond gall olygu lleiandy neu gwfaint yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru.