Stent Uwchgwyrfai 1352

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:49, 11 Mehefin 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Stent Uwchgwyrfai yn dyddio o 1352 ac yn rhan o stent am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn.

Y ddogfen wreiddiol

Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dyletswyddau yr oedd yn ofynnol i ddeiliaid y tir gyflwyno i'r arglwydd, sef (erbyn 1352), goron Lloegr neu (a bwrw bod tywysog Cymru'n bod) i'r dywysog Seisnig hwnnw fel rhan o diroedd Tywysogaeth Gogledd Cymru. Mewn gwirionedd, math o "Lyfr Domesday" yw'r stent, ac mae'n ffynhonell hynod o bwysig (ond nad y bwysicaf un) ar gyfer deall cymdeithas Uwchgywrfai yn ystod y 14g.

Y dull o gasglu gwybodaeth oedd trwy gynnal sesiynau o flaen John de Delves, dirprwy Iarll Arundel (ustus y tywysog yng Ngogledd Cymru), lle holwyd holl denantiaid caeth a rhydd. Cofnodwyd yr holl ganfyddiadau gan glerc neu glercod, ac wedyn fe'i archwiliwyd gan reithgor o ddeuddeg o ddynion rhydd y cwmwd. Diddorol yw nodi fod enwau'r rheithwyr yn dangos eu bod oll ag enwau Cymraeg.

Ar ôl manylu ar ddyddiad yr arolwg ac enwau'r rheithwyr, mae'r stent yn mynd yn ei flaen o drefgordd i drefgordd, yn rhestru'r prif denantiaid a deiliaid tir, a'r gofynion ar bob gwely (sef prif raniad y drefgordd neu'r dreflan), nodi presenoldeb melinau a ffeithiau perthnasol eraill.

Cofnodwyd yr wybodaeth mewn Lladin, ac fe adysgrifiwyd y ddogfen gan Syr John Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig, a'i chyhoeddi gan Gomisynwyr y Cofnodion Cyhoeddus ym 1838, mewn llyfr o'r enw The Record of Caernarvon[1]. Er bod rhan y stent ar gyfer Môn wedi ei gyfieithu (ac mae'r cyfieithiad hwnnw'n werthfawr iawn oherwydd y rhagair a'r troednodiadau i ni yn Uwchgwyrfai hefyd)[2], ni wnaed erioed gyfieiethiad o stent Sir Gaernarfon. Prosiect gan Gof y Cwmwd yw cyhoeddi cyfieithiad rhydd o'r testun o dipyn i beth ar lein yn yr erthygl hon.

Deall y ddogfen

Fel y dywedwyd uchod, mewn Lladin yr ysgrifennwyd y ddogfen, ond er mwyn arbed amser a deunyddiau ysgrifennu, arferid cwtogi neu dalfyrru geiriau yn unol â system o gollnodau amrywiol. Roedd hyn yn arferol yn y Canol Oesoedd ac ni fyddai pobl addysgiadol y pryd hynny'n cael trafferth i ddehongli'r hyn sydd ar y memrwn ond i ni mae'n anodd ambell i waith ddeall beth yn unig a fwriadwyd. Mae enwau personol yn arbennig o anodd - a rhaid cofio nad oedd y clercod yn ôl pob golwg yn gyfarwydd â'r Gymraeg - gan fod talfyriadau megis Cad' yn gallu, o bosibl, gynrychioli nifer o enwau bedydd, Cadwaladr, Cadog, Cadfarch ayb. Gwneir ymdrech yn y cyfieithiad isod i ymestyn enwau personol, ond lle nad oes sicrwydd go lew am yr hyn a fwriadwyd, gadewir yn enw fel mae'n ymddangos, gyda chollnod.

Mae nifer o dermau cyfreithiol a gweinyddol anghyfarwydd yn ymddangos. Tystia'r rhain i'r modd y bu i drefn weinyddol a thirdaliadol barhau'n weddol ddigyfnewid o gyfnod y Tywysogion Cymreig hyd at 1536. Ceisir esbonio'r rhain mewn ôlnodiadau i'r testun isod. Ynysg y termau mwyaf cyffredin, ceir:

* Amobr oedd y ddirwy a godwyd gan yr arglwydd, yn dechnegol, pan oedd merch yn colli ei gwyryfdod, sef wrth iddi briodi neu ar adegau eraill priodol. 
* Bufedd (bovate yn Saesneg) oedd yn fesur o dir oedd yn gyfateb yn fras i’r hen erw Gymreig, sef tua 4 acer heddiw. Bufedd oedd maint y tir y gellid ei aredig gyda ychen mewn diwrnod.
* Ebediw oedd y ddirwy a dalwyd gan etifedd i’r arglwydd wrth iddo gymryd ei etifeddiaeth.
* Gobrestyn oedd y ffi oedd yn daladwy am gael yr etifeddiaeth i dir lle nad oedd yr etifedd yn ddisgynnydd uniongyrchol.
* Rhingyll oedd yn un o is-swyddogion y cwmwd, yn negesydd dros y brenin ac yn gyfrifol am orfodi hawliau yntau yn y wlad.
* Tir siêd oedd tir a oedd wedi cael ei fforffedu; (estreat yn Saesneg).

Cyfieithiad o'r Testun

D.S. Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig sydd yn adysgrif o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, a honno ei hun yn gopi o'r gwreiddiol. Daeth y ddogfen wreiddiol i'r fei ym Maron Hill, plasty ger Biwmares tua chanrif wedi i'r fersiwn argraffedig gael ei chyhoeddi, ac mae hi ar gael yn Archifdy Prifysgol Bangor (cyf.: Baron Hill 6714). Wrth wneud y cyfieithiad rhydd hwn ni chymharwyd y gwahanol fersiynau. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiynau Lladin gwreiddiol lle bo'n ymarferol.

UWCHGWYRFAI

Stent o’r Cwmwd hwn a wnaed yng Nghaernarfon o flaen y dywededig ddirprwy [sef John de Delves, dirprwy Richard, Iarll Arundel, ustus yr arglwydd dywysog yng Ngogledd Cymru] ddydd Gwener, Gŵyl y Santes Margaret Forwyn yn y flwyddyn a ysgrifennwyd uchod [17 Gorffennaf 1352], ar lw, a thrwy holi, pob tenant o’r Cwmwd hwn, yn ddynion rhydd ac yn ddynion caeth fel ei gilydd; ac wedyn, wedi ei archwilio gan ddeuddeg dyn rhydd a chyfreithlon o’r Cwmwd hwn oedd ar eu llw, sef:
Llywelyn ap Ednyfed
Hywel ap Iorwerth
Cad’ ap Rhys
Tegwared Moel
Hywel ap Dafydd
Ieuan Teg
Madog ap Einion ap Philip
Tudur Goch
Dafydd ap Iorwerth Kenny
Ieuan Goch
Ednyfed ap Einion
Iorwerth ap Tegwared

ELERNION

Mae yn y drefgordd hon un wely o dir rhydd a elwir yn Gwely Hoedelew ap Llywarch. Ac etifeddion hwnnw yw Hywel ap Dafydd ap Keu’th, Madog Goch ap Einion, Adda Tew a Meredydd ei frawd, Hywel ap Llywelyn, Teg’ ap Hywel ac eraill. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14s. 2¼c.
Cyfanswm blynyddol: 56s. 9c.
Ac mae ganddynt ddwy felin eu hunain yn y drefgordd hon. Ac mae ganddynt ddyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd  lle bo a.y.b. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw , gobrestyn  ac amobr  fel y bo’n ofynnol. Amcangyfrifir bod tair bufedd  o dir siêd  a ddaeth oddi wrth Ieuan ap Eweryth sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod ag 1c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac y mae yn y drefgordd hon chwarter ran o fufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Ieuan Du ap Cad’ sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod â ½c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac y mae yn y drefgordd hon barsel o dir a elwir yn Ffridd-yr-aur a alwyd yn y rhôl gyfrifon Tyddyn Newat a Tudur Canwyn’ a’i wraig  sydd y tu fewn i diroedd yr arglwydd ac sydd yn nwylo’r arglwydd o ddiffyg tenant. Ac yr oedd arfer dod â 4s. 2c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 16s.8c.
Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn cyfrannau cyfartal, 9s. 8c.
Cyfanswm blynyddol: 9s. 8c.
Ac mae’r tâl a’r cynnydd yn cael eu codi y trefgordd hon gan ringyll y cwmwd hwn pan fydd yr holl sir yn gwneud hynny. Ac yn yr un drefgordd mae un fufedd o dir caeth y mae Madog ?Fain, taeog yr arglwydd Dywysog, yn ei dal ar ei ben ei hun. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 5c.
Cyfanswm blynyddol: 20c.
Ac mae o’n gwneud yr holl daliadau a gwasanaethau y mae gweddill taeogion yr arglwydd Dywysog yn y cwmwd hwn yn eu gwneud fel y dywedir isod.
Cyfanswm y mae’r drefgordd hon yn ei dalu’n flynyddol: £4 5s. 7c.


DINLLE

Mae yn y drefgordd hon saith gwely o dir rhydd a elwir yn Gwely Wyrion Einion, Gwely Wyrion Morgeneu, Gwely Wyrion Rhawd, Gwely Wyrion Ystrwyth, Gwely Wisgiaid, Gwely Hebogothion a Gwely Bowynied.
Ac mae Llywelyn ap Ednyfed Gronw ap Tudur ac eraill yn etifeddion Gwely Wyrion Einion uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 6s. 1c.
Cyfanswm blynyddol: 24s. 4c.
Ac mae ganddynt dair felin a elwir Melin Gafelog, Melin Meredydd a Melin Ednyfed. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r cwmwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. 
A Hywel ap Iorwerth, Eden ap Einion ac eraill yw etifeddion Wely Wyrion Morgeneu uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 6½c.
Cyfanswm blynyddol: 42s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae gan denantiaid y gwely hwn eu melin eu hunain a elwir Melin Heilin ac mae’r rhain â dyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Y maent yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
A Rhys Mynyth, Cad’ ap Rhys ac eraill yw etifeddion Wely Wyrion Rhawd uchod. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 3s. 7c.
Cyfanswm blynyddol: 14s. 4c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud bod ganddynt eu melin eu hunain a elwir Melin Madog, a rhai’n dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b.
A Tudur Goch ap Gronw, Ieuan ap Griffith Fychan ac eraill yw etifeddion Wely Wyrion Ystrwyth uchod. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 11s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 45s. 2c.
Ac mae ar bawb o’r Gwely hwn ddyletswydd mynychu melin arglwydd Eithinog. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae chwe bufedd o dir siêd yn ôl amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Morgant sydd yn awr yn nwylo Tudur Goch trwy siartr ein harglwydd Tywysog presennol. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14c. sy’n cynwysedig yn y taliad dywededig o 11s. 3½c. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 12c.
Cyfanswm blynyddol: 12c.
A Heilin ap Ednyfed, Gronw ap Ednyfed, Gronw a Rhys meibion Iorwerth Crach ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Wisgiaid. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 7s. 5¾c.
Cyfanswm blynyddol: 29s. 11c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae rhai yn dweud fod y Gwely hwn yn rhydd o [fynychu] melin yr Arglwydd  ac eraill yn cadw rhag gwneud a.y.b. Ac y mae yn y dywededig Wely Wisgied dwy fufedd a hanner o dir siêd a ddaeth oddi wrth Heilin ap Cad’ sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid talu 3½c. bob tymor fel rhan o daliad uchod y Gwely. Ac am y tir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu telir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 5c.
Cyfanswm blynyddol: 5c. [sic]

A Tegwared Goch, Hywel ap Ieuan ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Hebogothion. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 4s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 19s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae rhai yn dweud eu bod yn rhydd i fynychu unrhyw felin o gwbl yn ôl eu dewis a.y.b. a rhai yn dweud fel arall. Y maent yn yr un modd yn cadw rhag gwneud hyd nes a.y.b. 
Ac yn y gwely uchod a elwir Gwely [Wyrion] Ystrwyth y mae parsel o tir siêd a ddaeth oddi wrth Gronw Henseil sydd yn cynnwys chwe firgat o dir yn ôl yr amcangyfrif ac sydd yn nwylo’r arglwydd wedi i’r tenant hwnnw eu gadael i orwedd yn fraenar ers dwy flynedd. Ac arferid talu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor 7c. A gynhwysid yn y taliad uchod o 4s. 10¼c. Ac yn y gwely hwnnw y mae chwe firgat o tir siêd yn ôl yr amcangyfrif a ddaeth oddi wrth Ieuan Kenny ac sydd yn nwylo’r arglwydd am y rheswm uchod. Ac y mae yn y gwely hwnnw hanner bufedd o dir yn ôl yr amcangyfrif sydd yn tir siêd a ddaeth oddi wrth Meurig ap Philip ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac y mae’r tiroedd uchod a.y.b.
A Ieuan ap Griffith ap Bleddyn, Ieuan ap Gwilym Du ac eraill yw etifeddion y gwely uchod a elwir Gwely Bodwyniod. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 2s. 10¼c.
Cyfanswm blynyddol: 11s. 5c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd gan nad oes ganddynt felin yn y Cwmwd dan sylw. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b.
Ac yn y drefgordd hwn y mae naw rhan o wely a elwir Gwely Wyrion Iorwerth sydd â degfed rhan ohoni yn Isgwyrfai fel sydd yn cael ei ddangos dan drefgordd Treflan. A Griffith ap Madog, Ieuan ap Llywelyn ac eraill yw etifeddion ohono. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s. 3½c.
Cyfanswm blynyddol: 21s. 2c.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. Ac maent â dyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac o fewn y naw ran o ddeg o’r gwely hwn yn mae un fufedd o tir siêd a gafwyd oddi wrth Tegwared Goch Bastard sydd yn awr gan Tegwared Moel. Ac fe delir 2c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac y mae yn y naw rhan o’r gwely hwn hanner bufedd o dir siêd o dir a ddaeth oddi wrth Griffith ap Cyfnerth sydd gan Tegwared uchod yn yr un ffordd. Ac fe delir 1c. ym mhob un o’r pedwar tymor a sydd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dau daliad cyfartal, 2c.
Cyfanswm blynyddol: 2c.

Ac mae trydedd ran o wely a elwir yn Gwely Cynwrig ap Tregir yn y drefgordd hon. Ac etifeddion hwnnw yw Dafydd Fychan a Ieuan a Hywel ei frodyr ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r tymhorau uchod 6c.
Cyfanswm blynyddol: 2s. 0½c.
a’r dimai hwnnw’n cael ei gynnwys yn nhaliadau’r gwely hwn gan nad oes modd ei rannu’n bedwar. Telir hwn a.y.b. Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd yn y Cwmwd hwn ac yng Nghwmwd Isgwyrfai. Ac maent â dyletswydd mynychu melin yr arglwydd isod yn y Cwmwd hwn. 
Ac yn yr un drefgordd y mae pumed ran o wely a elwir yn Gwely Pyll ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Einion ap Tudur, Gwerfyl ferch Gwenllian ferch Hywel ac eraill. Ac maent yn talu yn y Cwmwd hwn ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 9c.
Cyfanswm blynyddol: 3s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin Arglwydd y Tywysog o fewn y Cwmwd hwn. Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac y mae o fewn y dywededig bumed ran o’r Gwely hwnnw dair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Tegwared ap Adda Goch. Ac mae’r rhain yn dal yn nwylo’r arglwydd. Ac arferid yn y gorffennol dalu 3½c. ym mhob un o’r pedwar tymor a oedd ers talwm i gyd yn gynwysedig yn nhaliadau’r gwely hwn. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delid 14c. yn y Cwmwd hwn adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel.
Cyfanswm blynyddol: 14c.

Ac yn yr un drefgordd y mae hanner gwely a elwir Gwely Ednowain ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Gronw ap Heilin, Ieuan Goch ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod 5s.8½c. 
Cyfanswm blynyddol: 22s.10c.
Ac y mae o fewn yr hanner o’r gwely hwnnw un fufedd o dir siêd yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Gwyn ap Gronw ac sydd yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd yn arfer talu ym mhob un o’r tymhorau hynny a.y.b. y tâl yr arferid ei gynnwys yn nhaliadau y gwely. Ac yn yr hanner o’r un gwely un fufedd arall yn ôl yr amcangyfrif o dir a ddaeth oddi wrth Heilin ap Ieuan a Tegwared ap Ieuan. Ac am y tir hwn sydd newydd gychwyn cael ei amaethu fe delir 2c. 
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac mae’r hanner hwnnw [yn golygu bod] dyletswydd mynychu [llysoedd] y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd  fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. A thelir 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. 
Ac yn yr un drefgordd y mae trydedd ran  gwely a elwir Gwely Cyfnerth ap Tregir. Ac etifeddion hwnnw yw Einion Of, Iorwerth ap Einion ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r tymhorau uchod yn y Cwmwd hwn 12c.
Cyfanswm blynyddol: 4s.
Ac maent â dyletswydd mynychu [llysoedd] arglwydd y Sir a’r Hwndrwd. A hefyd [â dyletswydd] i fynychu melin yr arglwydd o fewn y Cwmwd hwn. . Ac [maent yn talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr a.y.b  A’r drefgordd gyfan hwn yn talu 4c. ar gyfer twnc yn ychwanegol at yr hyn a delir yn ôl y stent  adeg y Pasg a gŵyl Sant Mihangel mewn rhannau cyfartal.
Cyfanswm blynyddol: 4c.

Ac arferai pawb, boed yn rhydd neu’n gaeth yn y Cwmwd hwn, dalu 6s.8c. adeg gŵl yr Holl Seintiau at ddefnydd Maenor Caernarfon yr arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 6s.8c.

Wedyn, fe gyflwynodd amryw o denantiaid cymydau Isgwyrfai ac Uwchgwyrfai amryw o ddeisebau ynglŷn ag achosion difrifol i John de Delves y dirprwy Ustus ym mhresenoldeb yr Archwiliwr presennol parthed taliadau annheg gan y gwelyau uchod yn y Cymydau hyn. Daethpwyd i benderfyniad, o flaen yr arglwydd ddirprwy ac Archwiliwr Trysorlys yr arglwydd Dywysog yng Nghaernarfon fis Ionawr 1353, ym mhresenoldeb Llysoedd y Cymydau hyn a gyfarfu efo’i gilydd oherwydd yr achos hwn a thrwy eu dyfarniad, nad oes gofyn ar y rhan honno sydd gan Wely Cynwrig ap Tregir yn Ninlle yng Ngwmwd Uwchgwyrfai dalu taliadau bob blwyddyn yn y pedwar tymor arferol ond 2s. lle [nodir] yn y stent newydd hwn 2s.0½c. y flwyddyn ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Pyll ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 2s.6c. lle [nodir] 3s. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Ednowain ap Tregir dalu ar adeg y tymhorau bob blwyddyn ond 8s. lle [nodir] 22s.10c. yn yr un stent. Ac nad oes gofyn ar y rhan honno o Wely Cyfnerth ap Tregir dalu ond 2s.2c lle [nodir] 4s. yn yr un stent. Ac oherwydd hyn mae’r pedwar Gwely uchod sydd â gofynion yn ôl y stent newydd uchod i dalu 31s.10½c. sydd yn 17s.2½c. o daliad blynyddol yn ormod, nid oes ond 14s.8c. yn daladwy bob blwyddyn. A chan ei fod yn ddigon eglur ac yn cael ei ddatgan mai yng Nghwmwd Isgwyrfai y mae gofyn i’r gwelyau hynny a Gwely Wyrion Iorwerth yn nhrefgordd Treflan am dalu’r 17s.2½c. dywededig yn flynyddol i’r arglwydd. Gorchmynnir hyn trwy ganiatâd y dirprwy uchod a’r Archiliwr ac wedyn ni thelir i Ringyll y Cwmwd hwn y 17s.2½c. uchod am y cyfnod a fu, oedd yn ormod i’w dalu gan y gwelyau hynny; ond telir [y swm hwnnw] wedyn i Ringyll Isgwyrfai fel y datganwyd uchod.
Cyfanswm blynyddol: £11.19s.9c.
Cyfanswm tir siêd, twnc a chynhaliaeth y Faenor 10s.3c.

Cyfeiriadau

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838)
  2. A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" (Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn), (1971-2) tt.150-272