Stent Uwchgwyrfai 1352

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:29, 27 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Stent Uwchgwyrfai yn dyddio o 1352 ac yn rhan o stent am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn.

Y ddogfen wreiddiol

Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dyletswyddau yr oedd yn ofynnol i ddeiliaid y tir gyflwyno i'r arglwydd, sef (erbyn 1352), goron Lloegr neu (a bwrw bod tywysog Cymru'n bod) i'r dywysog Seisnig hwnnw fel rhan o diroedd Tywysogaeth Gogledd Cymru. Mewn gwirionedd, math o "Lyfr Domesday" yw'r stent, ac mae'n ffynhonell hynod o bwysig (ond nad y bwysicaf un) ar gyfer deall cymdeithas Uwchgywrfai yn ystod y 14g.

Y dull o gasglu gwybodaeth oedd trwy gynnal sesiynau o flaen John de Delves, dirprwy Iarll Arundel (ustus y tywysog yng Ngogledd Cymru), lle holwyd holl denantiaid caeth a rhydd. Cofnodwyd yr holl ganfyddiadau gan glerc neu glercod, ac wedyn fe'i archwiliwyd gan reithgor o ddeuddeg o ddynion rhydd y cwmwd. Diddorol yw nodi fod enwau'r rheithwyr yn dangos eu bod oll ag enwau Cymraeg.

Ar ôl manylu ar ddyddiad yr arolwg ac enwau'r rheithwyr, mae'r stent yn mynd yn ei flaen o drefgordd i drefgordd, yn rhestru'r prif denantiaid a deiliaid tir, a'r gofynion ar bob gwely (sef prif raniad y drefgordd neu'r dreflan), nodi presenoldeb melinau a ffeithiau perthnasol eraill.

Cofnodwyd yr wybodaeth mewn Lladin, ac fe adysgrifiwyd y ddogfen gan Syr John Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig, a'i chyhoeddi gan Gomisynwyr y Cofnodion Cyhoeddus ym 1838, mewn llyfr o'r enw The Record of Caernarvon[1]. Er bod rhan y stent ar gyfer Môn wedi ei gyfieithu (ac mae'r cyfieithiad hwnnw'n werthfawr iawn oherwydd y rhagair a'r troednodiadau i ni yn Uwchgwyrfai hefyd)[2], ni wnaed erioed gyfieiethiad o stent Sir Gaernarfon. Prosiect gan Gof y Cwmwd yw cyhoeddi cyfieithiad rhydd o'r testun o dipyn i beth ar lein yn yr erthygl hon.

Deall y ddogfen

Fel y dywedwyd uchod, mewn Lladin yr ysgrifennwyd y ddogfen, ond er mwyn arbed amser a deunyddiau ysgrifennu, arferid cwtogi neu dalfyrru geiriau yn unol â system o gollnodau amrywiol. Roedd hyn yn arferol yn y Canol Oesoedd ac ni fyddai pobl addysgiadol y pryd hynny'n cael trafferth i ddehongli'r hyn sydd ar y memrwn ond i ni mae'n anodd ambell i waith ddeall beth yn unig a fwriadwyd. Mae enwau personol yn arbennig o anodd - a rhaid cofio nad oedd y clercod yn ôl pob golwg yn gyfarwydd â'r Gymraeg - gan fod talfyriadau megis Cad' yn gallu, o bosibl, gynrychioli nifer o enwau bedydd, Cadwaladr, Cadog, Cadfarch ayb. Gwneir ymdrech yn y cyfieithiad isod i ymestyn enwau personol, ond lle nad oes sicrwydd go lew am yr hyn a fwriadwyd, gadewir yn enw fel mae'n ymddangos, gyda chollnod.

Mae nifer o dermau cyfreithiol a gweinyddol anghyfarwydd yn ymddangos. Tystia'r rhain i'r modd y bu i drefn weinyddol a thirdaliadol barhau'n weddol ddigyfnewid o gyfnod y Tywysogion Cymreig hyd at 1536. Ceisir esbonio'r rhain mewn ôlnodiadau i'r testun isod. Ynysg y termau mwyaf cyffredin, ceir:

* Amobr oedd y ddirwy a godwyd gan yr arglwydd, yn dechnegol, pan oedd merch yn colli ei gwyryfdod, sef wrth iddi briodi neu ar adegau eraill priodol. 
* Bufedd (bovate yn Saesneg) oedd yn fesur o dir oedd yn gyfateb yn fras i’r hen erw Gymreig, sef tua 4 acer heddiw. Bufedd oedd maint y tir y gellid ei aredig gyda ychen mewn diwrnod.
* Ebediw oedd y ddirwy a dalwyd gan etifedd i’r arglwydd wrth iddo gymryd ei etifeddiaeth.
* Gobrestyn oedd y ffi oedd yn daladwy am gael yr etifeddiaeth i dir lle nad oedd yr etifedd yn ddisgynnydd uniongyrchol.
* Rhigyll oedd yn un o is-swyddogion y cwmwd, yn negesydd dros y brenin ac yn gyfrifol am orfodi hawliau yntau yn y wlad.
* Tir siêd oedd tir a oedd wedi cael ei fforffedu; (estreat yn Saesneg).

Cyfieithiad o'r Testun

Stent o’r Cwmwd hwn a wnaed yng Nghaernarfon o flaen y dywededig ddirprwy [sef John de Delves, dirprwy Richard, Iarll Arundel, ustus yr arglwydd dywysog yng Ngogledd Cymru] ddydd Gwener, Gŵyl y Santes Margaret Forwyn yn y flwyddyn a ysgrifennwyd uchod [17 Gorffennaf 1352], ar lw, a thrwy holi, pob tenant o’r Cwmwd hwn, yn ddynion rhydd ac yn ddynion caeth fel ei gilydd; ac wedyn, wedi ei archwilio gan ddeuddeg dyn rhydd a chyfreithlon o’r Cwmwd hwn oedd ar eu llw, sef: Llywelyn ap Ednyfed Hywel ap Iorwerth Cad’ ap Rhys Tegwared Moel Hywel ap Dafydd Ieuan Teg Madog ap Einion ap Ph’ Tudur Goch Dafydd ap Iorwerth Kenny Ieuan Goch Ednyfed ap Einion Iorwerth ap Tegwared

ELERNION

Mae yn y drefgordd hon un wely o dir rhydd a elwir yn Gwely Hoedelew ap Llywarch. A’r etifeddion hwnnw yw Hywel ap Dafydd ap Keu’th, Madog Goch ap Einion, Adda Tew a Meredydd ei frawd, Hywel ap Llywelyn, Teg’ ap Hywel ac eraill. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14s. 2¼c. Cyfanswm blynyddol: 56s. 9c. Ac mae ganddynt dwy felin eu hunain yn y drefgordd hon. Ac mae ganddynt ddyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r cwmwd lle bo a.y.b. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw , gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Amcangyfrifir bod tair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Ieuan ap Eweryth sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod ag 1c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf. Cyfanswm blynyddol: 4c. Ac y mae yn y drefgordd hon chwarter ran o fufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Ieuan Du ap Cad’ sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod â ½c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf. Cyfanswm blynyddol: 2c. Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 4c. Cyfanswm blynyddol: 4c. Ac y mae yn y drefgordd hon barsel o dir a elwir yn Ffridd-yr-aur a alwyd yn y rhôl gyfrifon Tyddyn Newat a Tudur Canwyn’ a’i wraig sydd y tu fewn i diroedd yr arglwydd ac sydd yn nwylo’r arglwydd o ddiffyg tenant. Ac yr oedd arfer dod â 4s. 2c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf. Cyfanswm blynyddol: 16s.8c. Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn cyfrannau cyfartal, 9s. 8c. Cyfanswm blynyddol: 9s. 8c. Ac mae’r tâl a’r cynnydd yn cael eu codi y trefgordd hon gan ringyll y cwmwd hwn pan fydd yr holl sir yn gwneud hynny. Ac yn yr un drefgordd mae un fufedd o dir caeth y mae Madog ?Fain, taeog yr arglwydd Dywysog, yn ei dal ar ei ben ei hun. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 5c. Cyfanswm blynyddol: 20c. Ac mae o’n gwneud yr holl daliadau a gwasanaethau y mae gweddill taeogion yr arglwydd Dywysog yn y cwmwd hwn yn eu gwneud fel y dywedir isod. Cyfanswm y mae’r drefgordd hon yn ei dalu’n flynyddol: £4 5s. 7c.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838)
  2. A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" (Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn), (1971-2) tt.150-272