Y Blagur
Cylchgrawn disgyblion Ysgol Gynradd Trefor oedd Y Blagur, ac fe gyhoeddwyd y rhifyn cyntaf Nadolig 1923. Ei bris oedd tair ceiniog. Fe'i hargraffwyd ym Mhwllheli gan D. Caradog Evans, Argraffydd, 67 Stryd Fawr. Prifathro'r ysgol ar y pryd oedd R.Lloyd Jones, yr awdur nofelau antur i blant. Y bwriad oedd cyhoeddi tri rhifyn y flwyddyn - un i bob tymor ysgol.
Ceir 16 tudalen yn y rhifyn cyntaf ac mae'n cynnwys clawr gwyrdd a nifer dda o hysbysebion gan fasnachwyr lleol e.e. C.R.Cadwaladr, Groser, Penmaen House, Trefor.
Dyma gynnwys y rhifyn cyntaf :
NODION (gan y Prifathro mwy na thebyg)
PENNOD FER O HANES (eto gan y Prifathro neu un o'r athrawon)
EIN BABI NI : Dienw
DARLUN HEB EIRIAU : Gwobr am lunio stori am y llun o athro boliog yn sefyll gerbron dosbarth mewn ysgol
DADL SANTA CLÔS : Dienw
MY HOLIDAYS : Esme Coleman
WILLIE A'R CAWR : Lizzie Hughes
HEL LLUS : Gwilym Jones
TREFOR YN 1960 : Menai Parry
YSTORI : E.H.
Y TRIP I RHYL : E.H.
Y BACHGEN AMDDIFAD : Robert Japheth
Y DDAU FACHGEN GYDA'R CWCH : W.H.Jones
Y TYLWYTH TEG : Annie Williams
DARN HEB ATALNODAU : Dienw
SANTA CLÔS a TRO I'R WLAD : Dwy gerdd gan Nin (Evans, Hyfrydle)
FOOTBALL NEWS AND NOTES : T.J.Jones
THE MATCH AT FOURCROSSES : Robert T. Roberts
TASGAU I'R PLANT : Pump o dasgau gwahanol - Enwau Cuddiedig / Gair Sgwâr / Acrostic Dwbl / Tasg Diamwnt / Enw Cuddiedig
SANTA CLÔS : Stori a lluniau (Dienw)
Gwaetha'r modd, y rhifyn cyntaf hwn oedd yr unig rifyn a gyhoeddwyd, a hyd y gwyddys, un copi yn unig sydd ar gael ohono.