Ysgol Sul Tŷ Glas (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:49, 12 Mai 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cofnodir Ysgol Sul Tŷ Glas ymysg yr ysgolion Sul a gynhelid ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1847 adeg Brad y Llyfrau Gleision, yn yr adroddiadau hynny. Roedd 22 o ddisgyblion dan 15 yn mynychu'r ysgol Sul honno a 30 o oedolion dros 15 - ysgol Sul ymysg y lleiaf a gofnodir. Ni wyddys fawr mwy am yr ysgol hon, ac mae'n ymddangos iddi gael ei chynnal yn ffermdy neu adeiladau fferm fach Tŷ Glas, sydd ond yn furddun erbyn heddiw ond a oedd y fferm fechan yn ucheldir Clynnog rhwng Bwlch Derwin a Tai'n Lôn.