John Hughes (Idanfryn)
Roedd John Hughes (Idanfryn) (1832-1876) yn athro Ysgol Capel Horeb, Rhostryfan am flwyddyn neu ddwy tua 1866-7. Cafodd ei eni ym Mrynsiencyn, Ynys Môn (lle mae tŷ o'r enw Idanfryn). Roedd o'n athro yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn union cyn ddod i Rostryfan, a symudodd wedyn i Amlwch erbyn 1869 lle bu'n athro ar yr Ysgol Frytanaidd yno[1] ac wedyn i Gaernarfon lle bu'n byw hyd ei farwolaeth. Roedd wedi priodi merch y Capten Hugh Owen o Fangor, a bu hithau'n byw yno nes symud at ei merch yng Nghaerdydd tua 1910 a marw yn 1915 yn 73 oed.[2]
Roedd Idanfryn yn fardd a gafodd gryn sylw yn ystod ei oes ac mae ei waith ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.[3]
Bu farw 1876, gan adael ei weddw, pedwar mab a dwy ferch.Yn eu mysg oedd Gwilym Hughes (Ap Idanfryn), newyddiadurwr amlwg ac ysgrifennydd y "Welsh National Memorial Association".[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma