William Caldwell Roscoe

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:42, 24 Ebrill 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

William Caldwell Roscoe oedd un o dri chyfarwyddwr y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company), perchnogion Chwarel yr Eifl, Trefor. Y ddau arall oedd ei briod, Emily Sophia Caldwell, a gŵr i chwaer Emily, John Hutton.

Ganwyd William Roscoe ar 20 Medi 1823, a bu farw ar 30 Gorffennaf 1859 yn 35 mlwydd oed. Ceir cofeb iddo yng nghapel Renshaw Street, Lerpwl. Roedd yn ŵr ifanc talentog a dysgedig iawn ac swedi graddio ym Mhrifysgol Llundain ym 1843. Ym 1845 priododd â Sophia Emily Malin, merch William Malin, masnachwr llwyddiannus o Marley, swydd Derby. Roedd Sophia yn chwaer i wraig John Hutton. Cafodd William ac Emily ddwy ferch, Elizabeth Mary ym 1856, a Margaret ym 1858, ac un mab, William Malin ym 1859, y flwyddyn y bu farw William Roscoe o'r teiffoid yn Surrey, de Lloegr. Trosglwyddwyd ei ddiddordeb a'i gyfrifoldeb yn y Cwmni Ithfaen Cymreig i'w weddw, Emily Sophia Roscoe.

Mae'n werth cyfeirio at daid William Caldwell Roscoe, sef yr enwog William Roscoe a fu farw ym 1831 yn 88 mlwydd oed. Roedd yn ieithmon hyfedr iawn, gyda meistrolaeth lwyr ar Saesneg, Lladin, Groeg, Ffrangeg ac Eidaleg. Roedd hefyd yn fardd da, yn arlunydd medrus, yn hanesydd gloyw ac yn amddiffynnwr brwd o'r Chwyldro Ffrengig (1789). Roedd yn awdur toreithiog, ac ymysg ei weithiau enwaocaf, a gyfrifir yn glasuron yr iaith Saesneg, ceir Life of Lorenzo de Medici a Life and Pontificate of Leo X. Un o'i lyfrau mwyaf dylanwadol oedd The Wrongs of Africa (1787) gwaith gŵr oedd yn wrthwynebwr brwd i'r fasnach gaethweision. Bu'r Aelod SeneddolChwigaidd dros ddinas Lerpwl am gyfnod. Ef hefyd oedd prif sefydlydd Gerddi Botanaidd Lerpwl.