Eric Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:19, 22 Ebrill 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Eric Jones oedd olynydd J.R.Morris yn y Siop Lyfrau Gymraeg enwog yn y Bont Bridd, Caernarfon. 'Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama' oedd y geiriau oedd yn ysgrifenedig uwchben ei drws. Roedd Eric Jones yn byw ym mhentref Pontllyfni. Byddai'n dal Moto Coch hanner awr wedi wyth bob bore i fynd i'w waith, ond byddai'n aml yn hwyr yn cyrraedd y bont. Ond doedd dim raid iddo bryderu. Byddai'r Moto Coch yn gofalu sefyll yn ei unfan hyd nes y byddai Eric Jones wedi cyrraedd. Roedd yn genedlaetholwr hollol ddigymrodedd.

Bu farw ym 1982.