Cyff Beuno
Mae 'Cyff Beuno yn enw ar hen gist 3 troedfedd 9 modfedd o hyd wedi ei cherfio o un darn soled o bren onnensydd i'w gweld mewn cas gwydr yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Mae hollt bach yn nhop y gist lle gellid rhoi arian at yr eglwys. Tan ganol y 19g roedd hi'n arfer gan ffermwyr y plwyf rhoi gwartheg gyda marc arbennig ar eu clustiau a elwid yn "nôd Beuno" i wardeiniaid yr eglwys a byddai'r swyddogion hynny wedyn yn eu gwerthu, a rhoi'r arian a gafwyd amdanynt yn y gist. Hefyd, fe wnaed cyfraniadau gan y rhai a oedd yn awyddus i brynu maddeuant am eu pechodau.[1]
Mae cloeon ar y giust sy'n dyddio o'r 16-17g., ond maae'r gist ei hun a'r straapiau haearn arni'n dyddio o'r canol oesoedd yn ôl pob tebyg.[2]
"Cyff Beuno" yw'r enw a roddodd Eben Fardd ar awdl o'i waith i nodi atgyweiiad Eglwys Clynnog Fawr ac hefyd yn deitl ar ei lyfr sydd yn ymwneud â hanes y fro - gan gynnwys yr awdl, ac a gyhoeddwyd yn Nhremadog ym 1853. Mae'r awdl yn dal yn ddigon difyr a darllenadwy ac yn rhoi cip ar hanes Beuno Sant, yr eglwysa'r sefydliadau a oedd yn gysylltiedig â hi fel y canfyddid yr hanes mewn oes pan nad oedd ffynonellau dibynadwy ar gael i haneswyr yn gyffredinol. Mae gweddill y llyfr Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys nodiadau am y bardd a'i "hynodion" gan Ioan ab Hu Feddyg, sydd yn cyflwyno cofiant a gwerthfawrogiad o Eben Fardd........
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma