Cyff Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:26, 18 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae 'Cyff Beuno yn enw ar hen gist 3 troedfedd 9 modfedd o hyd wedi ei cherfio o un darn soled o bren onnensydd i'w gweld mewn cas gwydr yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Mae hollt bach yn nhop y gist lle gellid rhoi arian at yr eglwys. Tan ganol y 19g roedd hi'n arfer gan ffermwyr y plwyf rhoi gwartheg gyda marc arbennig ar eu clustiau a elwid yn "nôd Beuno" i wardeiniaid yr eglwys a byddai'r swyddogion hynny wedyn yn eu gwerthu, a rhoi'r arian a gafwyd amdanynt yn y gist. Hefyd, fe wnaed cyfraniadau gan y rhai a oedd yn awyddus i brynu maddeuant am eu pechodau.[1]

Mae cloeon ar y giust sy'n dyddio o'r 16-17g., ond maae'r gist ei hun a'r straapiau haearn arni'n dyddio o'r canol oesoedd yn ôl pob tebyg.[2]

Mae "Cyff Beuno" yw'r enw a roddodd Eben Fardd ar awdl o'i waith ac hefyd ar ei lyfr sydd yn ymwneud â hanes y fro - gan gynnwys yr awdl.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. R.D. Roberts, Clynnog, its Saint and its Church, sef tywyslyfr i'r eglwys, c.1954
  2. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.39