Bron Dirion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:29, 26 Mawrth 2020 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Bron Dirion yn dŷ sylweddol ger Brynaerau a Phontlyfni. Fe'i codwyd gan Ioan ab Hu Feddyg [1] yn 1842 a'i alw yn Brondirion Villa. Ei rieni a'i frawd aeth i fyw yno o Goch-y-Big. Helaethwyd Brondirion ym 1872.

Brondirion. LLun: Mair Eluned Pritchard
Sylwer ar y cyfeiriad at Salm 127, y Salm sy'n dechrau: "Os yr Arglwydd nid adeilada y ty, ofer y llafuria yr adeiladwyr wrtho."llun: Mair Eluned Pritchard, Bryn Myfanwy


Tua diwedd ei oes, bu Austin Hopkinson (1869-1962), aelod seneddol Mossley ym Manceinion am flynyddoedd lawer, yn byw yma. Roedd o'n ddiwydiannwr a arbenigai mewn offer ar gyfer y diwydiannau mwyngloddio,[2] a dichon oherwydd ei gysylltiad â'r ardal agorwyd Ffatri Pikrose (y cwmni a sefydlodd) ym 1970.[3]

Bu ar un adeg yn gartref i deulu Christian - mae Edgar Christian yn enwog fel anturiaethwr ifanc a fu farw yng Ngogledd Canada, gan adael dyddiadur ingol ar ei ôl.

Erbyn hyn, mae Bron Dirion yn cael ei osod i griwiau ar gyfer gwyliau hunamarlwyol. Mae'n bechod nad oes sôn am Edgar a'i hanes ar y wefan sydd yn ei hysbysebu: felly mae hanes yn mynd ar goll!

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PUGH-JOH-1814
  2. Erthygl Wikipedia am Austin Hopkinson [V], cyrchwyd 14.7.2019
  3. Delyth Morris, Economic Development in Gwynedd, 1870-2001, (2005), [1], cyrchwyd 14.7.2019