Ysgol Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:26, 10 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'n amlwg bod rhyw fath ar ysgol yn bodoli (yn ôl pob tebyg yn yr Eglwys Sant Twrog, Llandwrog) er nad oes sicrwydd mai Ysgol Llandwrog oedd yr enw ar yr ysgol. Mae enw ysgolfeistr yn ymddangos yng nghofrestrau plwyf mwy nag unwaith yn yr 18g hwyr. Ym 1789, enwir David Wilson, Ffrwd, yn dad ar ferch o'r enw Mary, plentyn siawns Ellin Parry o Gollfryn Mawr; fe'i bedyddiwyd 25 Ionawr 1789 ond ysywaeth fe'i chladdwyd 8 Mai yr un flwyddyn.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1789