John Robinson, goruchwyliwr chwarel a blaenor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:47, 6 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganed John Robinson (1805-1867) yng Nghefneithin, Carmel, yn fab hynaf Hugh ac Ellin Robinson, Cefn Eithin.[1] Fe'i adnabyddid fel bachgen gwyllt ac ymladdgar nes benderfynu callio, ac erbyn 1828, ac yntau'n 24 oed, roedd yn athro yn yr ysgol Sul yng Ngharmel, ac y mhen pedair blynedd fe'i godwyd yn flaenor. Daeth i adnabod John Jones, Tal-y-sarn yn dda, a dichon trwy hynny fe'i ddyrchafwyd yn oruchwyliwr Chwarel Dorothea. Yng Nghyfrifiad 1861, fe'i gofnodir yn byw yn Dorothea House, gyda'i wraig Margaret (dynes o Abererch, 20 mlynedd yn iau nag ef) a'u dau fab ifanc, John ac Owen Jones Robinson.[2] Bu'n aelod a blaenor yng [[Nghapel Tal-y-sarn (MC)|nghapel y Methodistiaid yn Nhal-y-sarn yn nes ymlaen yn ei oes.[3]

Ni ddylid ei gymysgu a John Robinson, Plas Tal-y-sarn a oedd yn Sais o Lerpwl ac yn eglwyswr. Cymro a aned yn lleol i deulu oedd wedi byw ym mhlwyf Llandwrog am o leiaf dwy os nad tair cenhelaeth a mwy.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1804
  2. Cyfrifiad 1861, Plwyf Llandwrog
  3. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.201-2
  4. Archifdy Caernarfon, Cofrestrau Plwyf Llandwrog.