John Robinson, goruchwyliwr chwarel a blaenor
Ganed John Robinson (1805-1867) yng Nghefneithin, Carmel, yn fab hynaf Hugh ac Ellin Robinson, Cefn Eithin.[1] Fe'i adnabyddid fel bachgen gwyllt ac ymladdgar nes benderfynu callio, ac erbyn 1828, ac yntau'n 24 oed, roedd yn athro yn yr ysgol Sul yng Ngharmel, ac y mhen pedair blynedd fe'i godwyd yn flaenor. Daeth i adnabod John Jones, Tal-y-sarn yn dda, a dichon trwy hynny fe'i ddyrchafwyd yn oruchwyliwr Chwarel Dorothea. Bu'n aelod a blaenor yng [[Nghapel Tal-y-sarn (MC)|nghapel y Methodistiaid yn Nhal-y-sarn yn nes ymlaen yn ei oes.[2]
Ni ddylid ei gymysgu a John Robinson, Plas Tal-y-sarn a oedd yn Sais o Lerpwl ac yn eglwyswr.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma