Capel Horeb (W), Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:58, 3 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd y Capel Horeb a welir heddiw ar Ffordd y Sir, Pen-y-groes ym 1878 a dathlwyd ei ganmlwyddiant ym 1978, pan gyhoeddwyd llyfryn i ddathlu'r achlysur.[1] Fodd bynnag, roedd presenoldeb Wesleyaeth ym Mhen-y-groes yn y 1830au (gweler yr erthygl ar Wesla Bach Llanllyfni) ac ym 1866, agorwyd capel ar draul o ryw £100 ym Mhen-y-groes, pan ddywedwyd bod "Wesleyaeth eto yn cael ei phlanu yn yr ardal", a hynny gyda wythnos o bregethau a chyfarfodydd. Yn yr adroddiad yn yr Eurgrawn Wesleyaidd, fodd bynnag, nis enwir y capel.[2]

Caewyd yr achos yn weddol fuan wedyn, ac ar ôl cael ei werthu, trowyd y capel yn fflatiau.

Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Horeb.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD34/669
  2. Eurfgrawn Wesleyaidd (Cyf.58, 1866), t.347