John Pughe
Mab i David Roberts a Catherine Pughe, Lleuar Bach, oedd John Pughe (c.1761-1802). Fe’i bedyddiwyd yn John Pughe Roberts ond erbyn iddo ddilyn ei dad fel ffermwr Lleuar Bach yr oedd yr enw Pughe wedi disodli’r cyfenw Roberts.
Daeth y John Pughe hwn yn drwm dan ddylanwad yr efengylwr, y Parch. Robert Roberts, Clynnog, ac yn groes i ddymuniad ei rieni ymaelododd yn eglwys ieuanc y Methodistiaid yng Nghapel Uchaf, Clynnog. Toc wedi i’r ddau droi eu deg r hugain oed fe welodd John Pughe a Robert Roberts ddiwygiad grymus yn y Capel Uchaf yn 1793, a’r flwyddyn ddilynol, ar ôl ymweliad Thomas Charles o’r Bala â’r lle, fe sefydlwyd Ysgol Sul yno. Dylanwadodd y grymoedd crefyddol gryn dipyn ar weithredoedd beunyddiol gŵr Lleuar Bach.
Pan aeth hi’n anodd i Robert Roberts fynd i’w gyhoeddiadau pregethu oherwydd bod Colier, ei geffyl, yn rhy hen i’r teithiau, rhoddodd John Pughe gaseg winau hardd yn anrheg iddo. Anrhegai hefyd dlodion y plwyf â darnau o gig adeg y Nadolig. Ond byr fu ei oes, ac er iddo fedru fforddio talu deugain punt am driniaeth yng Nghaernarfon gan Dr Rowlands o Gaer, bu farw yn un a deugain oed yn 1802, Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, yn ddeugain oed, bu farw hefyd ei gyfaill mawr ysbrydol, y Parch. Robert Roberts.
Ganwyd iddo ef a’i wraig dri o blant: Ioan ab Hu Feddyg (John Pughe), Dafydd ab Hu Feddyg ac Eliza.