Alfred Henderson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:17, 28 Mawrth 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gŵr o Nantlle oedd Alfred Henderson ac ymddengys iddo gymryd yn ifanc at chwarae'r corn, gan fod yn aelod o Gyrn Arian Deulyn cyn iddo symud o'r ardal i weithio fel clerc ym Mhrescot ger Lerpwl ym 1914 - yn bur debyg fel gwaith rhyfel - ac fe ymunodd â band yno.[1]

Dichon ei fod hefyd yn medru canu'n foddhaol gan fod y cofnod canlynol i'w weld yn yr Herald Cymraeg:

ORIG GYDA CHEIRIOG.—Treuliwyd cymdeithas Baladeulyn, nos Iau, i fwynhau Ceir-! iog a'i weithiau. Cafwyd papur arno gan Mr.- G. W. Francis, a darllenodd lawer o'i weith- iau, a chanodd gan o'i eiddo. Hefyd cafwyd caneuon ac adroddiad o weithiau y bardd gan Miss Maggie Powell, Mri Alfred Henderson a Llew Deulyn, ynghyda chanu dau emyn o'i eiddo dan arweiniad Mr. W. T. Williams.

Yn nes ymlaen dychwelodd i ardal Dyffryn Nantlle, ac ym 1947 fe arweiniodd band a oedd yn gyfuniad o fandiau Moeltryfan a Seindorf Dyffryn Nantlle pan gystadlodd yn aflwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn.[2]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cymru, 22 Rhagfyr 1914, t.5
  2. Erthygl Cof y Cwmwd ar fandiau Uwchgwyrfai.