Eithinog Wen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:59, 29 Ionawr 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Annedd a hen ffermdy yw Eithinog Wen, yn ardal Pontllyfni.

Credir i’r enw Eithinog Wen ar un cyfnod gyfeirio at o leiaf tair annedd a’u tiroedd (sef Eithinog Uchaf, Eithinog-Ganol ac yr Eithinog Wen). Roeddynt yn ffurfio rhan bwysig o hen dreflan Tref Eithinog a Bryn Cynan yn ôl y Parch. W.R. Ambrose.

Roedd y tiroedd ar un adeg yn nwylo Ellen Glynne, merch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn-y-Gwydion. Credir i’r Ellen Glynne a nodir yma werthu llawer o’i hystâd er mwyn sefydlu Elusendai ar gyfer merched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu aelodau o’u teulu i wylio ar eu holau. Y mai’r adeilad a elwir yn Tai Ellen Glyn yn sefyll hyd heddiw yn Llandwrog.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)