Nebo

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:24, 15 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pentref bach ar gwr y mynydd agored yw Nebo. Saif ym mhlwyf Llanllyfni. Cyn codi'r tai a'r tyddynod yn y 19g i ddiwallu anghenion chwarelwyr a weithiai yn y chwareli ar lethrau Dyffryn Nantlle islaw'r pentref i'r gogledd, elwid yr ardal agored hon yn Fynydd Llanllyfni. Enwid y pentref ar ôl capel y Methodistiaid Calfinaidd a godwyd i wasanaethu'r gymuned newydd.

Arferai fod siop a swyddfa bost yma. Ar un adeg tua 1910, cadwai'r prifathro lleol, T.H. Griffiths y siop.[1] Erys yr ysgol fach yn agored hyd yma (2018), a gwasanaethir y pentref gan wasanaeth bysiau sawl gwaith y dydd.

Mae Mast Nebo ar fryn i'r de o'r pentref yn darparu rhaglenni teledu i ran helaeth o ogledd-orllewin Cymru.

Enwogion o'r pentref

  • Mathonwy Hughes, a gafodd ei eni ar dyddyn yn y cyffiniau, ac a fynychodd Ysgol Nebo am rai blynyddoedd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Dyffryn Nantlle [1]