Llyfni Huws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 01:46, 17 Mawrth 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd William Llyfni Huws ar yr ail o Fehefin 1889 yn Llys y Delyn, Pen-y-groes, yn olaf o chwe phlentyn William Hughes (a anwyd yn Llanllechid), a Jane ei wraig (o ardal Llangwnnadl yng ngwlad Llŷn a pherthynas i Dic Aberdaron). Ganwyd y ddau riant ym mlwyddyn y Llyfrau Gleision, 1847. Mab arall i William a Jane oedd y bardd Llyfnwy.

Roedd yr aelwyd yn 30 Stryd y Bedyddwyr ym Mhen-y-groes yn un ddiwylliedig iawn mae'n amlwg. Roedd William Hughes y tad yn gryn englynwr a dysgodd ei grefft farddonol trwy gyfrwng llyfr cynganeddion a fenthycodd oddi wrth Urias Stephens, gweithiwr yng ngorsaf rheilffordd Pen-y-groes.

Daeth Llyfni i sylw'r genedl gyfan pan enillodd ar yr unawd canu penillion dan 18 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1906. Gyda chymorth y Cymro enwog hwnnw, Syr O.M.Edwards, cafodd fynd at Gwenynen Gwent i Lanofer am gyfnod i weithio a chael gwersi ar ganu'r delyn deires.

Ar 23 o Fawrth 1923, yng Nghapel Pen-dref, Llanfyllin, priododd Llyfni Huws â merch o'r enw Matilda (Mallt) Jane Owen (1898-1987) o Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn. Roedd hi yn ferch gerddorol iawn ac fe'i galwai ei hun yn Gerddores Eryri. Fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Corwen ym 1919.

Dilynodd Llyfni ei dad i'r chwarel ac yno y bu'n gweithio hyd ddydd ei briodas. Yna daeth yn argraffydd ac yn siopwr bach, gan ei anfarwoli ei hun fel bardd a cherddor, yn ganwr penillion o fri cenedlaethol ac yn delynor hyfedr.

Bu farw at y 4ydd o Ebrill 1962 ac fe'i claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes. Yn fuan wedi ei gladdu canfu ei weddw, Mallt, englyn a gyfansoddodd Llyfni i'w roi ar garreg ei fedd ei hun. A dyna'n wir a wnaed. Dymas'r englyn :

         Carodd Dduw, do carodd ddyn, - carodd lên,
               Carodd lunio englyn ;
             Carodd wau â'r tannau tyn
             Iaith ei dylwyth a'i delyn.