Slŵp y "Nancy"

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:42, 17 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd slŵp a elwid y Nancy yng Nghlynnog Fawr (a dichon mai yn y man a elwid yn Borth Clynnog) a hynny ym 1780. Dyma'r unig long y gwyddys amdani i'w hadeiladu yng Nghlynnog. Roedd bywyd hir i'r slŵp 32 tunnell hwn, ond fe gollwyd (yn ôl pob tebyg gyda'r holl griw) ym 1817.[1]

Cyfeiriadau

  1. David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, (Caernarfon, 1952), t.206