Siôn Robert Lewis (John Roberts)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:42, 22 Chwefror 2020 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Siôn Robert Lewis (John Roberts)

Daeth Siôn Robert Lewis, 1731-1806 yn adnabyddus fel cyhoeddwr Almanac Caergybi. Bu wrth y gwaith hwn am bedair blynedd a deugain a pharhawyd i’w gyhoeddi gan ei fab,
CochRobert Roberts,(1777-1836) hyd 1837. [1] Roedd hefyd yn awdur, rhwymwr a gwerthwr llyfrau, emynydd a gwneuthurwr clociau [2]

Roedd yn enedigol o Lanaelhaearnyn fab i ffermwr, Robert Roberts, ac yn ystod ei ieuenctid arferai fugeilio defaid ei dad. Ond yng Nghaergybi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.

Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Hywel Harris yn pregethu yn y gymdogaeth, fe’i dilynodd i Drefeca, y gymuned Gristnogol a sefydlwyd gan Hywel Harris, a threulio tymor yno. [3]

Ymgartrefodd yng Nghaergybi tua 1760 pryd y cafodd drwydded gan Esgob Bangor i agor ysgol. Yn 1766 priododd Margaret Jones, Bodedern, Môn, a ganed iddynt chwech o blant.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig: John Roberts. Awdur Thomas Isfryn Jones.
  2. ’’Nabod Môn’’ Gol. Dewi Jones, Glyndwr Thomas, tud.465. Gwasg Carreg Gwalch. (2003).
  3. ’’Hanes Emynwyr Cymru’’, W.A. Griffiths,(Hanes Emynwyr Cymru) tud. 81, Arg.W.Gwenlyn Evans, Swyddfa’r ’’Geninen’’ (1880?).