Tom Sarah

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:00, 17 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Symudodd Thomas Edwin Sarah (1855-1916) (a adweinid fel arfer fel "Tom Sarah") i Dal-y-sarn pan roedd yn blentyn o Gernyw ac fe weithiodd ef a’i dad fel gyrwyr injans a pheirianwyr yn y chwarel. Erbyn 1911, nodwyd yn y Cyfrifiad ei fod yn "gyriedydd peiriannau trydanol". Roedd Edwin Sarah a'i wraig a'u plant Tom, Annie a Jennie wedi setlo yn Nhal-y-sarn ac yno bu'r teulu ar hyd oes Tom. Roedd yn chwareuwr cornet nodedig ac am bum mlyn mlynedd ar hugain, fo oedd arweinydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle. Dan ei arweiniad daeth y band yn enwog, gan berfformio o flaen y Frenhines Fictoria.

Priododd Tom â Sarah Jones o Frynaerau, lle roedd ei thad yn godwr canu yn y capel. Roedd Sarah Jones yn gontralto nodedig a aeth dan yr enw Eos Aeron. Cafodd y cwpl bump o blant gan gynnwys Mary King Sarah. Mynychwyr selog yn y capel, sef Capel Seion (A), Tal-y-sarn oedd y teulu a bu Mary King yn canu yno. Roedd King yn enw teuluol yng Nghernyw.[1]

Ym 1911, roedd ef, ei wraig a'i fab dibriod John Henry yn byw yn Angorfa, Tal-y-sarn. Diddorol, er iddo fod yn Sais pur (neu'n hytrach yn Gernyw-wr) o ran ei rieni, dewisodd lenwi ffurflen y cyfrifiad yn y Gymraeg.[2]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Casglwr, Gwanwyn 1991, t.5
  2. Cyfrifiad 1911, Llanllyfni