Geraint Jones, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:51, 27 Mehefin 2019 gan Mwngrel o Feirion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint Jones (Trefor)

Mae Geraint Jones (g1942) o bentref Trefor wedi bod yn ymgyrchydd iaith gydol ei oes, yn athro ac yn brifathro Ysgol yr Eifl, Trefor o 1983-1997, yn gerddor gyda'r gorau ym myd y bandiau pres, yn arweinydd Seindorf Trefor am dros hanner canrif ( o 1969) ac y mae'n dal wrthi! Mae'n yn awdur nifer o nofelau a llyfrau hanes. Yn wreiddiol o Drefor, aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth a graddiodd yn y Gyfraith (LlB : 1963).

Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymwneud â gwleidyddiaeth lleol yn ardal Trefor.

Am ddwy flynedd, hyd y'i rhwystrwyd gan yr awdurdodau, bu'n ysgrifennu colofn wythnosol dadleuol "Sêt y Gornel" yn y Cymro (2005-06).

Sefydlydd a chadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Trefor.

Fo yw Prif Weithredwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ac un o'i sylfaenwyr. Fo hefyd sy'n bennaf gyfrifol am Yr Utgorn, chwarterolyn llafar y Ganolfan.

Fo sy'n llunio Cwis poblogaidd y Faner Newydd.

Llyfryddiaeth

  • Rhen Sgŵl (Gwasg Bro'r Eifl, 1978)
  • Cywrain Wŷr y Cyrn Arian (Pwyllgor Seindorf Trefor/Cymdeithas Hanes Trefor, 1988)
  • Dianc i Drybini (Gwasg Bror Eifl, 1991)
  • Carchar nid Cartref (Clwb y Bont Pwllheli, 1992)
  • Hen Gerddorion Eifionydd (Cyngor Sir Gwynedd, 1993)
  • Cyrn y Diafol:Golwg ar Hanes Cynnar Bandiau Pres Chwarelwyr Gwynedd (Gwasg Gwynedd, 2004)
  • Band yr Hendra, Wmpa–Wmpa! (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
  • Trefor cyd awdur gyda Dafydd Williams (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr 2006)
  • Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Gwasg y Bwythyn, 2009)
  • Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  • Malcolm Allen, y Cofiant (Y Lolfa, 2009)
  • Moto Ni, Moto Coch - Canmlwyddiant Cwmni Bysus Clynnog a Threfor (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)
  • John Preis (Gwasg Utgorn Cymru, 2014)
  • Gwlad y Menig Gwynion (Gwasg Carreg Gwalch, 1996)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau