Tom Bowen Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:07, 13 Chwefror 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dawi Griffiths yn cyflwyno cyfrol i Tom Bowen Jones

Ffermwr, pysgotwr, cenedlaetholwr a bardd oedd Tom Bowen Jones (19 - ), Gwydir bach, Trefor. Yr oedd yn frawd i Robert Herbert Jones, bardd arall crefftus, a adweinid fel Robin Gwydir Bach.[1]

Yn Awst 1968 cynhaliwyd Y Genedlaethol yn Y Barri a’r Fro. Testun yr englyn oedd Map a’r enillydd oedd Tom Bowen Jones. Rhestrir yr englyn ymhlith dwsin englyn gorau yr Eisteddfod Genedlaethol yn y ganrif ddiwethaf, yn ôl Dafydd Islwyn[2].

Map
Yn hwn o hyd chwilio a wnaf  -ar fy hynt
       Am ryw fan a geisiaf;
     Ond ynddo chwilio ni chaf
     Yn niwl y siwrne olaf.

Ar y cyd â Tecwyn Jones, bardd gwlad o Eifionydd, fe gyhoeddodd ddetholiad o gerddi ym 1981. [3].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol
  2. Dafydd Islwyn, Colofn Dafydd Islwyn (Cwmni, Papur Sir Caerffili, Rhifyn 206, Hydref 2018) t.14.
  3. Tom Bowen Jones a Tecwyn Jones, O Windy a Gweithdy’r Gân (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1981),