John Williams (J.W. Llundain)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:24, 16 Tachwedd 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Masnachwr llechi a golygydd papur newydd oedd John Williams (1872-1944).

Ganwyd John Williams yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan yn 1872. Roedd yn frawd i W. Gilbert Williams.

Dechreuodd weithio yn chwarel y Braich cyn mudo i Lerpwl. Gweithiodd fel clerc i adeiladwr am gyfnod, cyn symud wedyn i Lundain. Gweithiodd yno fel goruchwyliwr busnes llechi a gwaith toi. Priododd a Margaret Jane, ail ferch Edward Lloyd, Pen-y-fron, Dinbych. Ganwyd iddynt dwy ferch a dau fab. Ym Medi 1923, dechreuodd gwmni/masnach defnyddiau toi ei hun, gyda’i fab hynaf yn glerc. Er budd J.W., buodd yn brysur oherwydd yr angen i adeiladu rhwng y ddwy ryfel byd.

Nid masnachu oedd unig waith y gwr yma. Roedd yn gyfrifol am olygu papur newydd ‘Y Ddolen’ – sef papur Cymraeg Llundain, ac roedd yn darlithio i gymdeithasau amryw ac yn cyfrannu at ‘Y Brython’. Cyhoeddodd ei hunangofiant yn 1943 – ‘Hynt Gwerinwr’. Roedd yn byw yng Ngwynfa, Llandwrog nes ei farwolaeth yn 1944.

Ffynhonnell

Erthygl am J.W. ar y Bywgraffiadur Arlein